Showing posts with label diarhebion. Show all posts
Showing posts with label diarhebion. Show all posts

18/03/2010

Diarhebion Llydaweg (vi)

63. Dibaot ar c’halvez
A labour hep danvez
.
Prin yw’r saer
A weithia heb ddeunydd.

64. Ret eo gortoz ar c’haol da boazhañ
Pa vez c’hoant d’ober soubenn vat.
Rhaid aros i’r bresych goginio
Os dymunir gwneud cawl da.

65. C’hoant dimeziñ ha bevañ pell
En deus pep Yann ha pep Katell.

Mae awydd priodi a byw’n hir
Ar bob Siôn a phob Siân.
















66. Pa vez erc’h war an douar,
Ne vez na tomm na klouar.
Pan fo eira ar lawr,
Nid yw’n gynnes nac yn fwyn.

67. Daniel-mil-micher a oa marvet gant an naon.
Newynu a wnaeth Siôn-bob-swydd.

68. Tad ha mamm a zilez bugel
A zo daonet a-raok mervel.

Mae tad a mam sy’n gadael/ esgeuluso plentyn
Yn cael eu damnio cyn marw.

69. Ar re na reont netra
A zo ar muiañ trouz ganto.

Gan y rhai na wnânt ddim
Y bydd y sŵn mwyaf.

70. An hini a sant ar c’hwezh
Diouzh e reor e kouezh.

O din y sawl sydd yn clywed yr aroglau
Y daw’r drewdod.

Breizh / Llydaw, rhifyn 52 (Chwefror 2010), t.16.


llun: Dolgellau, Cymru - http://www.flickr.com/photos/bara-koukoug/4376025369/


15/06/2009

Diarhebion Llydaweg (v)

53. An diavaez ne ra ket an dalvoudegezh.

Nid y tu allan a ddengys y gwerth.
(Cymharer: Nid wrth ei big mae prynu cyffylog)

54. Ar re o devez bugale
O devez poan hepdale.


Bydd y sawl sydd yn cael plant

Yn cael gofid maes o law.


(Cymharer: Magu plant, magu gofid)

55. An hini na riskl netra
Na koll na gounid ne ra.


Y sawl na fentra ddim,
Ni chyll nac ennill ddim.
(Cymharer: Digywilydd, digolled)

56. Na werzh netra da ur mignonig,
Ha na bren netra digant pinvidig.



Na wertha ddim i ffrind,
Ac na phryna ddim gan gyfoethog.















(llun: dafad.ddall: http://www.flickr.com/photos/dafadddall/865075876/sizes/o/)

57. Ouzh komzoù flour diwall ervat,
Ar c’hazh a guzh ivin e droad.


Gwylia o hyd rhag geiriau teg,
Mae’r gath yn cuddio ewin(edd) ei throed.

58. Da gazh mat, razh heñvel.

I gath dda, llygoden ffyrnig debyg.
(h.y. Rhaid bod yn gyfrwysach na'r gelyn)

59. Ar c’hazh a vourr o logota
Hag ar c’hi o konikleta.


Mae’r gath yn dwlu ar lygota
A’r ci ar ddal cwningod.
(h.y. Pawb at y peth y bo)

60. Dousoù e pep lec’h,
Karantez e nep lec’h.


Cariadon ym mhob man,
Cariad yn unman.

61. Pig pe vran a gan.

Bydd pioden neu frân yn canu.
(h.y. Bydd rhywun yn siŵr o ollwng y gath o’r cwd
)

62. Dibaot siminal a voged
Hep na ve tan en oaled.


Anaml y bydd simnai’n mygu
Heb fod tân ar yr aelwyd.
(Cymharer: Nid mwg heb dân)



21/05/2009

Diarhebion Llydaweg (iv)

Y tro hwn dewiswyd ychydig ddiarhebion sy’n ymwneud â gwahanol alwedigaethau. Maent i gyd i'w cael yn y ddwy ffynhonnell a restrir isod.

Er wech-mañ ez eus bet dibabet un nebeud krennlavarioù hag a sell ouzh ar micherioù. Meneget int holl pe er skrid 'Skeudenn empradur ar gevredigezh er grennlavarioaueg vrezhonek', gant Lukian Kergoat, e Bretagne et pays celtiques. Mélanges offerts à la mémoire de Léon Fleuriot 1923-1987 (Saint-Brieuc & Rennes, 1992), pe en dastumadenn gant Frañsez Kervella hag embannet e Skol e 1959.


40. An douar a guzh ar muntrerezh
A reer gant medisinerezh


Mae’r tir yn cuddio’r llofruddiaeth
A wneir gan feddygaeth

41.
Doue a gas ar c’hleñved kuit;
Gant ar medisin ez a ar profid


Duw sy’n gwella’r afiechyd;
Y meddyg sy’n mynd â’r elw.

42.
Nep a zo rok gant serjanted,
Sur, ma ne goll, ne c’hounez ket


Os bydd dyn yn haerllug wrth heddwas,
Bid sicr, os na fydd ar ei golled, ni fydd ar ei ennill

43.
Mard eo yaouank hoc’h alvokad
E vo skarzhet deoc’h ho yalc’had


Os yw eich cyfreithiwr yn ifanc
Caiff eich pwrs ei wacáu

44.
Pinvidikaat alvokaded
A ra tud sot hag aheurtet


Cyfoethogi cyfreithwyr
A wna gwirioniaid ystyfnig

45.
Evit gounit da brosez prest
Ro da’z parner prezant pe fest


I ennill dy achos yn sydyn
Rho i’th farnwr rodd neu wledd

46.
Panevet ar gemenerien
’Ve aet an dud gant ar c’helien


Oni bai am deilwriaid
Buasai’r cylion wedi cael pawb.
(Enghraifft brin o ganmol gwaith y teiliwr sydd yma, oherwydd, fel arfer, byddai’n hoff gocyn hitio i’r llafurwyr gwledig. Gan amlaf, byddid yn edliw iddo ei ddiogi, ei lythineb a’i anonestrwydd.)

47.
Kreñv eo roched ur miliner,
Pakañ bep mintin ul laer


Cryf yw crys y melinydd,
Bob bore yn dal lleidr
(Ystyrid mai anonest oedd melinyddion. Mae’r ferf pakañ yn golygu ‘dal’ a hefyd ‘lapio’.)

48. Ur c’here a zo atav ur botoù fall en e dreid


Bydd wastad esgidiau gwael am draed crydd

49.
Pep marc’hadour, hirio an deiz
A zo laeroc’h evit ar bleiz.
Ar bleiz a laer ur penn-chatal,
Ar marc’hadour, loen hag all,
Hag alies, ned eo ket gevier,
E laer Doue war an aoter


Mae pob masnachwr, heddiw,
Yn fwy o leidr na’r blaidd.
Mae’r lleidr yn dwyn un o’r gwartheg,
Tra bo’r masnachwr yn dwyn yr anifail a phob dim arall,
Ac yn aml, nid celwydd yw hyn,
Gwna ddwyn Duw oddi ar yr allor

50.
Ar soner war e varrikenn
A ra d’ar yaouankiz vreskenn


Mae’r cerddor ar ben ei gasgen
Yn gwneud i’r ifainc symud yn wyllt

51.
Tri beg a zo o harpañ ar bed:
Beg ar vronn, beg ar soc’h,
Hag ur beg all, ’vel a ouzoc’h


Tri phen blaen sy’n cynnal y byd:
Pen blaen y fron, pen blaen swch yr aradr,
A phen blaen arall, fel y gwyddoch
(Yr hyn sydd fwyaf arwyddocaol yma yw mai'r amaethwr sydd yn dilyn yr alwedigaeth fwyaf hanfodol)

52. Kazh maneget ne dal netra da logota

Di-werth cath fanegog i lygota



(Cyhoeddwyd y rhain gyntaf yn Breizh / Llydaw, rhifyn 45 (Rhagfyr, 2006), 24-25.)

09/05/2009

Diarhebion Llydaweg (iii)

30. Ul logodenn n’he deus nemet un toull a zo boued d’ar c’hazh

Bwyd i’r gath yw’r llygoden nad oes ganddi ond un twll
(Cymharer: Gwae’r llygoden untwll, h.y. Dylai fod gan ddyn fwy nag un drws ymwared)

31. Re a vann ne dalv mann

Nid da rhy o ddim

32. Ar marc’h a reud ouzh ar c’hentroù
A ra gaou bras ouzh e gostoù

Mae’r march sy’n dal ei fol yn dynn wrth y sbardunau
Yn gwneud drwg mawr i’w ystlysau
(h.y. Ofer gwingo yn erbyn y symbylau)


33. Paour pe binvidik
Pep hini a rank dizourañ e gig

Boed yn dlawd neu’n gyfoethog,
Rhaid i bawb bisio


34.Pa lez an den lakaat un troad war e c’houzoug e vez lakaet daou

Pan adawa dyn i un troed gael ei roi ar ei wddf, rhoddir dau
(h.y. Os gadewch i rywun gymryd modfedd, cymer lathen)


35. Pilhenn a gav truilhenn
Er c’harzh pe e-kichen

Caiff clwtyn hyd i gerpyn
Yn y gwrych neu gerllaw
(Cymharer: Mae brân i frân yn rhywle)


36. A-raok komz, grit nav zro
Gant ho teod en ho kenoù!

Cyn llefaru, trowch eich tafod
Naw gwaith yn eich ceg!
(Mae gwir angen addasu hon i oes negeseuon e-bost... ‘A-raok klikañ, grit nav zro gant ho logodenn war ar pallenn'? Cyn clicio, trowch eich llygoden naw gwaith o amgylch y faten?)


37. E-barzh ar podoù kozh e vez graet ar gwellañ soubenn

Yn yr hen lestri y gwneir y cawl gorau
(h.y. mae’r henoed yn rhagori ar yr ifainc o ran rhai pethau)


38. Al laeron vihan a vez krouget
Al laeron vras a vez enoret

Crogir y mân ladron,
Anrhydeddir y lladron mawr.


39.Dibaot ar yar na goll he vi
O kanañ re goude dozviñ

Prin yw’r iâr na chyll ei hwy
Wrth ganu gormod wedi dodwy
(Cymharer: Peidiwch â chyfrif eich cywion cyn iddynt ddeor, neu’r hen linell
‘gnawd gwedi traha dranc hir’)

06/05/2009

Arferion a Dywediadau’r Llydawiaid, yn ôl 'Le Trésor du Breton Parlé', gan Jules Gros

Ganwyd Jules Gros ym Mharis, ond pan oedd yn dal yn fach, cafodd ei roi yng ngofal ei fam-gu, a oedd yn byw yn Nhredraezh, nid nepell o Lannuon (Lannion). Yno y treuliodd saith mlynedd cyntaf ei fywyd. Llydaweg oedd iaith yr aelwyd, ac ni ddechreuodd ddysgu Ffrangeg hyd nes iddo gael ei anfon i’r ysgol yn 1895. Pan oedd yn saith oed, dychwelodd i Baris, lle yr arhosodd am ddwy flynedd, cyn i’w fam benderfynu mynd yn ôl gydag ef i Dredraezh i fyw. Er ei fod yn dal i ddeall Llydaweg, ’roedd wedi colli’r arfer o’i siarad erbyn hynny, ac yn ôl yng nghefn gwlad Llydaw, credai ei fam-gu fod ei hŵyr yn anfodlon siarad â hi mwyach. Yn ôl yr hanes, pan ddechreuodd hi lefain y glaw, gan fod hynny'n peri'r fath ofid iddi, cyffyrddwyd â chalon yr un bach a thyngodd yntau y byddai’n gwneud ei orau glas i warchod iaith ei gyndeidiau. (Yn y llun gwelir Jules Gros yn 102 oed yn 1992. ’Roedd yn dal i gofio ychydig o Gymraeg.)

Cyn y Rhyfel Mawr dechreuodd gasglu priod-ddulliau Bro-Dreger (Trégor). Ei fam, â’i chyfoeth o Lydaweg, oedd ei hysbysydd cyntaf. Bu wedyn yn crwydro er mwyn cael siarad â physgotwyr ac â ffermwyr ei ardal. Wedi iddo ymddeol, dechreuodd roi trefn ar y nodiadau helaeth ’roedd wedi eu casglu ar hyd hanner can mlynedd, ac ym 1965 cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Le Trésor du Breton Parlé. Gwerthwyd pob copi ohono ymhen ychydig ac fe’i hadargraffwyd yn 1970, y flwyddyn a welodd gyhoeddi’r ail gyfrol o’r gwaith. Cwblhawyd yr astudiaeth fawr hon gan drydedd a phedwaredd gyfrol.

Ceir dros 80,000 o briod-ddulliau gwerin yn y llyfrau hynny. Drwyddynt gellir dod i adnabod agweddau ar y diwylliant gwledig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae rhai ohonynt, yn enwedig y rhai sy’n edrych ar y modd i ragweld y tywydd drwy graffu ar yr awyr, yn dal yn eithaf cyfarwydd. Ni fyddai neb yn synnu wrth glywed Sklaer eo al loar; skornañ a raio (Mae’r lleuad yn glir; bydd hi’n rhewi), neu Kelc’hiet eo an heol; warc’hoazh e raio glav (Mae cylch am yr haul; cawn law yfory), neu eto Pa vez kelc’hiet al loar e vez tost ur barr-amzer fall (Pan fo cylch am y lleuad, mae storm yn agos.) Diddorol, fodd bynnag, yw’r dywediadau darluniadol a arferir pan fo’r tywydd yn wael iawn: An amzer-mañ zo a-berzh an diaoul (Y diafol sydd wedi anfon y tywydd hwn), a phan fydd yr haul yn tywynnu yng nghanol cawod dywedir bod An diaoul o pilat e wreg (Y diafol yn rhoi crasfa i’w wraig.)

Mae’r ffyrdd o ddarogan tywydd gwael yn niferus – drwy edrych ar yr haul, ar y môr, ystyried y gwynt, sylwi ar gannwyll yr Ysbryd Glân (tân rigin), neu drwy graffu ar olwg y gwawn wedi ei estyn ar draws y ddaear. Gall anifeiliaid hefyd ein helpu i ddarogan gwynt a glaw: Er goañv, pa vez ar c’hizhier o lemel o barv e vez amzer fall (Yn y gaeaf, pan fo cathod yn eillio eu barf – h.y. yn pasio eu troed uwchben eu clust – bydd y tywydd yn wael.) Pa weli ur c’hi o c’hounit e gerc’h, lavar hardizh e vo glav souden (Pan weli gi’n ennill ei geirch – h.y. yn mynd ar ei gefn ac yn ysgwyd ei bawennau – gelli ddweud y bydd glaw ymhen dim o dro.) Ne glevez ket an drask oc’h ober lien? Amzer fall a zo da vezañ adarre (Oni chlywi di’r dresglen yn nyddu lliain – h.y. yn canu - ? Cawn dywydd mawr eto.) Pa vez gwelet ar flistrerezed-dour o redek war an hentoù e vez seblant amzer fall (Mae gweld y siglennod yn rhedeg ar y ffyrdd yn arwydd o dywydd drwg.)

’Roedd y cysylltiadau rhwng y lleuad a’r môr yn dra chyfarwydd: En deiz ma vez krouet al loar ez eo an nevez. Pa ne vez loar ebet, neuze, e vez an nevez bihan. (Y dydd pan ddaw’r lleuad i’r golwg mae’n llanw mawr – neu’n lleuad newydd. Pan na fydd y lleuad i’w gweld, dyna’r llanw bach.) A phan fo’n farddwr (llanw bach), bydd y rhai sy’n arfer mynd i hel cregyn ar hyd y glannau yn aros gartref, oherwydd gant ar marvor ne vez ket kavet a ormel (Pan fo’n farddwr, ni cheir clustiau môr).

Byddai’r ffermwyr hefyd yn edrych ar yr awyr er mwyn barnu a oedd yr adeg orau i hau wedi dod: Ordinal e sellomp ar c’houlz da hadañ; gant an diskar-loar a vez graet. (’Rydym wastad yn ystyried pryd sydd orau i hau: gwnawn hynny pan fo’r lleuad yn ei gwendid). Gyda rhai mathau o winwns, fodd bynnag, ’roedd hi’n wahanol: An ognon gwenn a vez hadet e-kerzh diskar-loar miz Eost (Caiff winwns gwynion eu hau pan fo’r lleuad ar gil ym mis Awst.) Cymerid gofal gyda’r grawn hefyd, oherwydd An ed, a vez lavaret, a dap ar penndu pe vez hadet gant an nevez (Maent yn dweud bod yr ŷd yn dal y benddu – h.y. math o ffwng – pan gaiff ei hau pan fo’n lleuad newydd.)

Ni fydd neb yn synnu at y cynghorion a roddid ynghylch sut i wella clefydau cyffredin drwy ddefnyddio planhigion a gesglid yn y caeau, er bod gwybodaeth am y fath arferion, yn sgil datblygiadau mewn meddyginiaeth, yn bur ddieithr i ni heddiw. Dyma ychydig ohonynt – y ddau olaf yn ddigon annisgwyl, efallai:

Ul louf-bleiz a veze lakaet gwechall war an devadennoù.
(Ers llawer dydd, byddai coden fwg [‘rhech ddistaw’r blaidd’ yn llythrennol] yn cael ei rhoi ar losgiadau.)

Ar wir-irvinenn a zo mat he gwrizioù ouzh ar boan-izili.
(Mae gwreiddiau cwlwm y coed yn dda at y gwynegon.)

Louzaouenn-ar-groaz a zo mat da dennañ ar gwad bloñset.
(Mae llysiau’r hudol yn dda i roi ar glais.)

Rouanez-ar-pradoù a zo mat da lakaat an dud da droazhañ; birviñ dour war ar gwrizioù a vez graet.
(Mae erwain yn dda at wneud i bobl droethi; caiff y gwreiddiau eu berwi mewn dŵr.)

Pa vezer bet piket gant ur wenanenn pe ur wespedenn ne vez ken met frotañ ar c’hroc’hen gant kaoc’h-skouarn.
(Wedi i ddyn gael ei bigo gan wenynen neu gan wenynen feirch, y cwbl sydd ei angen yw rhwbio’r croen â chwyr clustiau [‘cachu clustiau’ yn llythrennol].)

Evit gwellaat ar bennsac’h e vez lavaret teir gwech diouzhtu hep dizalaniñ: ‘Pennsac’h, pennsac’h! Bout da benn er sac’h, a-benn warc’hoazh e vo yac’h!’
(I wella’r bensach – y dwymyn doben / clwy’r pennau – mae dyn yn dweud deirgwaith yn sydyn, heb ollwng ei anadl: ‘Pensach, pensach! Gwthia dy ben i’r sach ac yfory bydd yn iach!’)

’Roedd hefyd blanhigion na chasglwyd mohonynt erioed gan neb, ond bod argoelion cryf yn gysylltiedig â hwy: Bez’ a zo ur c’heotenn hag ur vezhinenn hag a gelc’h (…) se n’eo ket gevier. (Mae math o wellt swyn a math o wymon swyn (…) nid celwydd mo hynny.) Rhoddwyd sawl enw ar y gwelltyn hud: geotenn real (gwelltyn brenhinol), gourc’heotenn (gorwelltyn), saouzanenn (syfrdanwr), heb anghofio am y gorvezhin (gorwymon) a’r gwir-vezhinenn (gwir wymon). Dyma blanhigion a fyddai'n rheibio pobl, pe baent yn cerdded arnynt liw nos. ’Roedd y gwellt hud yn tyfu mewn mannau gwlyb, a gellid ei adnabod gan ei fod, yn rhyfedd ddigon, ‘yn mynd yn erbyn y llanw’. Pan fyddai rhywun yn cerdded ar y planhigyn hwn, byddai’n colli ei ffordd: E Lannsaliou e vez kelc’hiet an dud, eno a zo kalz a c’hourc’heotennoù el lanneier gleb (Yn Lannsaliou caiff pobl eu rheibio, oherwydd yno mae llawer o’r gwellt hud ar y rhostir gwlyb.)

Mae’r gair ‘rheibio’ yn ein hatgoffa am allu dewiniaid ers llawer dydd a’u harfer o dynnu cylch, â ffon wen, o amgylch y sawl y dymunent ei hudo. Byddai’r sawl a gâi ei ddal fel hyn yn gweld tai mawr o’i amgylch a byddai’n methu cael hyd i’w ffordd. Yn ffodus, ’roedd modd go hawdd o ddod allan o drybini o’r fath: Evit bezañ digelc’hiet ne vez ken d’ober nemet lakaat ar godelloù war an tu-gin (I dorri hud ar ddyn nid oes angen ond iddo droi ei bocedi y tu chwithig allan). Tybed onid Llydawiaid a oedd wedi cael diferyn bach gormod i’w yfed a fyddai’n troedio ar y gwellt swyn, dynion a oedd am stori dda i’w hadrodd wrth eu gwragedd i egluro pam ’roeddent yn cyrraedd adref mor hwyr, a heb ddimai goch yn eu pocedi? Beth bynnag, gwyddai’r bobl ei bod yn well aros ar yr aelwyd, ac ymddifyrru yno, na mynd ar gerdded liw nos, oherwydd Al loar a vrev an dud pa bar warno en noz (Mae’r lleuad yn peri i ddyn wynegu pan fo’n tywynnu arno yn y nos.)

Caiff ofergoelion eraill sylw yng ngwaith Jules Gros. Mewn oes pan fyddai pobl yn byw gartref, gyda pherthnasau’n gofalu am y sawl a oedd yn dod i ben y dalar, ’roedd arwyddion angau yn ddigon cyfarwydd: Pa vez un den prest da vervel e vez gwelet kelc’h-ar-marv war e vizaj (Pan fo amser dyn wedi dod i farw gwelir cylch angau ar ei wyneb, h.y. golwg grablyd ar ei geg a’i drwyn.) Nid oedd pobl ychwaith yn hoffi gweld bedd agored ar y Sul, oherwydd y gred bod hynny’n golygu y byddai rhywun arall yn marw yn fuan wedyn.

Mae ffynhonnau niferus Llydaw yn ein hatgoffa bod yr Eglwys wedi mabwysiadu llawer o ffynonellau dŵr â chredoau paganaidd ynghlwm wrthynt. Nid oes angen mynd yn bell iawn i ddod o hyd i ofergoelion nad oes a wnelont ddim â Christionogaeth yn y traddodiadau hynny. I wybod a fyddai plentyn sâl yn gwella, er enghraifft, byddid yn taflu un o’i gynau (gwisg debyg i ffrog fach oedd gŵn plentyn bach) i mewn i ffynnon neilltuol. Pe bai’n suddo ’roedd yn argoel wael, ond Ma chom ar jakedenn war varr an dour e teuio ar bugel e-barzh. (Os erys y gŵn ar wyneb y dŵr bydd y plentyn yn dod ato ei hun). Mae ofergoel arall sy’n gysylltiedig â dŵr yn awgrymu bod ffordd neilltuol o wella oddi wrth drawiad tes: Pa vez tapet an heol e vez mat dour laeret eus teir feunteun er sav-heol (Pan fo dyn wedi cael ei daro gan yr haul, llesol yw cael dŵr a ladratawyd o dair ffynnon yn y Dwyrain.) Cynghorir yn erbyn mynd i ymofyn dŵr wedi i’r haul fachlud: N’eo ket mat mont da gerc’hat dour ar velc’hwedenn (Nid da mynd i nôl dŵr y falwen).

Gwelwyd bod ymddygiad anifeiliaid dof yn darogan sut dywydd a fyddai drannoeth. Priodolid galluoedd hud i ychydig o’r anifeiliaid hynny. Dyna gathod duon, er enghraifft: Ar c’hizhier du a vez lavaret e vezont kizhier an diaoul, hag a gac’h arc’hant (Maent yn dweud mai cathod y diafol yw’r rhai duon, a’u bod yn cachu arian.) ’Roedd cyswllt cathod â’r gŵr drwg yn amlwg, oblegid Ar c’hizhier a ra o sabad en ur park a dri c’horn (Mae cathod yn cynnal eu cyfarfodydd dewiniol mewn cae trionglog.)

’Roedd ofergoelion am gŵn du hefyd. Credai rhai, a hwythau’n Gristionogion da, fod modd i ddyn ddod yn ôl i’r ddaear, wedi iddo farw, ar ffurf anifail. Dyna a oedd wedi digwydd i ryw Yann neu’i gilydd: Ar c’hi du a veze gwelet eno diouzh an noz a oa Yann-Gozh oc’h ober e binijenn (Y ci du a oedd i’w weld yno liw nos oedd Yann-Gozh yn gwneud penyd.)

’Roedd ieir ymhlith anifeiliaid y tŷ. Ni châi’r rheini eu rhoi i ori ym mis Mehefin, fodd bynnag, oherwydd yn ôl yr ofergoel, byddai hynny’n peri iddynt droi a throi mewn cylch, hyd nes eu bod yn marw: E miz Even ne vez ket lakaet ar yer da c’horiñ, rak neuze e vezevennont (Ym mis Mehefin, ni chaiff yr ieir eu rhoi i ori, oherwydd wedyn bydd y bendro arnynt.) (Diau fod y cyswllt rhwng y bendro a mis Mehefin i’w briodoli, yn rhannol o leiaf, i debygrwydd y geiriau Llydaweg miz (Mezh)even ‘Mehefin’ a mezevenniñ/mizervenniñ/mezevelliñ ‘peri i’r pen droi, hala’r bendro ar rywun; rhoi o dan swyn’.) ’Roedd Mehefin yn effeithio ar bennau ieir ond hefyd ar bobl, ac yn yr enghraifft nesaf, hyd yn oed ar y môr: E miz Even e vezevenn ar mor hag e vez disuït: hiziv e treo kalz ha warc’hoazh ne dreo kazi tamm ebet. (Ym mis Mehefin mae’r bendro ar y môr a’r llanw’n afreolaidd: heddiw trai mawr, yfory nemor ddim trai.)

Mae diwylliant cefn gwlad wedi chwythu ei blwc bellach. Mwyach ni chaiff y teircall (Spiranthes spiralis) ei gasglu ym mis Medi i warchod y tŷ rhag taranfollt. Bellach ni chlywir pobl yn dweud Krog eo ar bik en he skouarn (Mae’r bioden wedi cydio yn ei chlust), pan sonnir am ferch sy’n awyddus i briodi. Os yw arferion a dywediadau’r unfed ganrif ar hugain yn wahanol i rai dechrau’r ugeinfed ganrif, nid oes amheuaeth nad yw gwaith Jules Gros yn dal yn ddifyr, ac yn unigryw. Drwyddo down i ddeall rhywfaint am ffordd yr hen Lydawiaid, rhai uniaith Lydaweg yn aml iawn, o feddwl.


Cyfieithiad (diwygiedig) RhH o ddarn gan Jacqueline Gibson, a gyhoeddwyd gyntaf yn Breizh-Llydaw, rhifyn 41 (Awst 2005), 22-24. Sylwer bod y dyfyniadau yn y cyfieithiad wedi cael eu rhoi yn orgraff zh. Ceir yr orgraff wreiddiol os edrychir ar y blog Llydaweg. Mae croesgyfeiriadau hefyd yn y fan honno.

29/04/2009

Diarhebion Llydaweg (ii)

Kalon ar wreg zo un delenn...


15. Kalon ar wreg zo un delenn
Hag a son kaer pa gar un den

Telyn yw calon gwraig

Ac fe gân yn bêr pan fo mewn cariad

16. Diwallit diouzh ar souchet
O krediñ ec’h eo kousket

Gwyliwch rhag a fo’n swatio,
Rhag credu ei fod yn cysgu
(Byddwch ar wyliadwriaeth rhag y sawl sy’n cynllwynio neu sy’n rhagrithiol)

17. Gwell eo bezañ kiger evit leue

Gwell bod yn gigydd nag yn llo
(‘I’d rather be a hammer than a nail’, chwedl Paul Simon)

18. Dre bediñ hag erbediñ
E vez graet ar c’hefridi

Drwy erfyn ac ymbil
Y cyflawnir y gorchwyl
(Cymharer Dyfal donc a dyr y garreg)

19. Pa vez al loar war he c’hant: sec’hor,

Pa vez he fenn d’an traoñ: bererezh

Pan fo’r lleuad ar ei hochr: sychdwr;
Pan fo â'i phen ar i lawr: cenllif

20. Didalvoudegezh
Mamm ar baourentez

Diogi, mam tlodi.

21. Abred ne goll gwech ebet

Ni fydd cynnar byth yn colli
(Cymharer: Aderyn bore sy’n cael y mwydyn gorau)

22. Ar c’haerañ charretour a ziskar e garr

Mae’r gyrrwr mwyaf medrus yn dymchwel ei gert
(h.y. Gall unrhyw un wneud camgymeriad)

23. Ur c’hwennenn en un noz
A vez nav gwech mamm-gozh


Daw chwannen, mewn noson,
Yn fam-gu naw gwaith

24. Pezh a ra d’an dridi bezañ treut:
Kalz emaint war nebeut

Yr hyn a bair i’r drudwennod fod yn denau:
Llawer ydynt ar ychydig

25. Pa vez ar brasañ brezel
E vez an tostañ ar peoc’h


Pan fo’r rhyfel ar ei anterth
Y mae'r heddwch agosaf
(Cymharer: Ar yr awr dywyllaf y tyr y wawr)

26. Hep gwin, arc’hant ha merc’hed
E ve aes tremen dre ar bed

Heb win, arian a merc’hed,
Hawdd fyddai mynd drwy’r byd hwn

27. Kenavo d’ar sant pa vez graet ar mirakl

Ffarwél i’r sant pan fo’r gwyrth wedi ei gyflawni
(h.y. Byr fydd y diolch wedi cymwynas)

28. Heol a savo re vintin
A zo techet da wall fin

Mae haul a godo’n rhy fore
Yn tueddu i ddiweddu’n ddrwg
(h.y. Am y tywydd, a diau hefyd yn ffigurol, am rywun sy’n llwyddo’n rhy ifanc)

29. Gwelloc’h un ti bihan bouedek
Eget un ti bras avelek

Gwell tŷ bychan llawn bwyd
Nag un mawr drafftiog

25/04/2009

Diarhebion Llydaweg

Ai pan fo blodau yn yr eithin, ynteu pan fo blodau yn y banadl, ’rwyt ti'n caru dy fam mwyaf?
Pethau difyr yw diarhebion, dywediadau cryno a lliwgar sydd, gan amlaf, â'u gwreiddiau yn ddwfn mewn cymdeithas golledig. Gan fod ynddynt gyfeiriadau at bethau dieithr i ni, ond a oedd yn rhan o fywyd pob-dydd mewn oes a fu, wrth eu defnyddio, rhoddant ddimensiwn arall i'n hiaith, ac yn aml ryw grynoder amheuthun. Peth gwirion yw eu gorddefnyddio, ond arwydd o dlodi ieithyddol yw methu eu defnyddio o gwbl... neu ddefnyddio diarhebion Saesneg cyfatebol.

Er bod hyn a hyn o ddiarhebion yn unigryw ym mhob iaith, mae nifer mawr ohonynt yn gyffredin i lawer o ieithoedd. Mae'r syniadau a fynegir ganddynt weithiau'n ymddangos yn anaddas heddiw, am eu bod, yn fynych, yn pwysleisio y dylai pawb blygu i'r drefn a pheidio â bod yn orfentrus. 'Digywilydd, digolled,' er hynny. Mae hefyd sawl dihareb sydd yn annog pobl i fwyta, er mwyn iddynt gael nerth i weithio, tra byddai anogaeth i beidio â bwyta cymaint yn debycach o fod yn gyngor doeth i'r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru heddiw.

Hyd yn hyn, yn Newyddion Llydaw / Keleier Breizh ac yn Breizh / Llydaw, cyhoeddwyd 95 o ddiarhebion Llydaweg ynghyd â chyfieithiad Cymraeg. O dipyn i beth gobeithir eu rhoi ar y blog, ond gan nad oes ffurf electronig o'r rhan fwyaf o'r rhifynnau ar gael, ni fydd modd gwneud hynny'n sydyn, nac yn yr un drefn.

Deuparth gwaith yw ei ddechrau, felly dyma 14 am y tro:

1. Ar mestr mat a ra mevel mat


Mae'r meistr da yn gwneud gwas da
Cymharer A fo ben bid bont

2. An hini ’ved hag a had souden
’Goll ur bara war bep ervenn


Mae’r sawl sy’n medi ac yn hau yn sydyn
Yn colli torth ym mhob cwys
Cymharer Nid ar redeg mae aredig

3. Glav da c’houloù-deiz
Ne zalc’h ket betek kreisteiz


Pan fo galw ar doriad y wawr
Ni phery tan hanner dydd

4. Pe pa vez ar bleuñv er balan,
Pe pa vez ar bleuñv el lann,
E karez vuiañ da vamm?


Ai pan fo blodau yn y banadl,
Ynteu pan fo blodau yn yr eithin,
’rwyt ti'n caru dy fam mwyaf?
(Yr ateb i’r pos diarhebol hwn yw Pa vez ar bleuñv el lann ‘pan fo blodau yn yr eithin’, am fod yr eithin yn blodeuo ar hyd y flwyddyn.)

5. Gwell eo karantez etre daou
Eget madoù leizh ar c’hraou


Gwell cariad rhwng dau
Na llond beudy o eiddo

6. Karout arc’hant ’lazh peurliesañ
Ar garantez ouzh an nesañ


Bydd ariangarwch, gan amla’,
Yn lladd cariad at gyd-ddyn


7. ’N hini ’brest arc’hant hep gwarant
A goll ha mignon hag arc’hant


Bydd y sawl sy’n rhoi benthyg arian heb warant
Yn colli ei ffrind a’i arian hefyd

Cymharer yr Hen Bennill:
Bu gennyf ffrind a cheiniog hefyd,
Ac i’m ffrind mi rois ei benthyg.
Pan eis i nôl fy ngheiniog adref,
Collais fy ffrind a hithe.


8. Ret eo gouzañv da gaout skiant
Ha labourat da gaout arc’hant


Rhaid dioddef i gael profiad
A rhaid gweithio i gael arian

9. Ken laer eo an hini a zalc'h ar sac'h

Evel an hini a lak e-barzh

Mae’r sawl a ddeil y sach
Yn gymaint o leidr â’r sawl sy’n ei llanw

10. Gwelloc’h un tamm bemdez
Eget re da Veurlarjez


Gwell tamaid bach beunydd
Na gormod ar ddydd Mawrth Ynyd

11. Tristañ daou dra zo er bed:

Koll ar gweled hag ar c'herzhed

Y ddau beth trista’ sydd yn y byd :
Colli eich golwg a’ch gallu i gerdded

12. An danvez dastumet gant ar rastell

A yelo buan gant an avel

Bydd yr hyn a gesglir â chribin
Yn mynd yn fuan gyda’r gwynt

13. Kammed ha kammed

E reer tro ar bed

Gam wrth gam
Yr eir o gwmpas y byd

Cymharer: Araf deg mae mynd ymhell

14. N'eo ket ar c'hezeg bras

A gas ar c'herc'h d'ar marc'had

Nid y ceffylau mawrion
Sy’n mynd â’r ceirch i’r farchnad