Showing posts with label Gradd Allanol. Show all posts
Showing posts with label Gradd Allanol. Show all posts

29/04/2009

Dysgu Llydaweg - modiwl yr ail flwyddyn i fyfyrwyr allanol - Aberystwyth

Os ydych wedi dysgu tipyn o Lydaweg ond yn awyddus i wneud rhagor, bydd cwrs yr ail flwyddyn i fyfyrwyr allanol yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf gan Brifysgol Aberystwyth. Edrychir yn bennaf ar yr amser presennol arferiadol ( e vez, am bez ), y dyfodol ( e vo, am bo), yr amherffaith arferiadol (e veze, am beze), yr amherffaith ( e kanen, e kanes), a'r amodol (e vefen / e vijen, am befe/ e vijen), ond cyflwynir llawer o ymadroddion a gwybodaeth ddefnyddiol arall hefyd. Rhoddir pwyslais yn bennaf ar sgwrsio yn yr iaith.

Cynhelir cyfres o ysgolion undydd ar y Sadwrn, gosodir ymarferion ysgrifenedig yn rheolaidd, a gwneir defnydd helaeth o gyflwyniadau Powerpoint ac o Blackboard.
Mae'n ddigon posibl mai dyma'r tro olaf y caiff y modiwl hwn ei gynnig yn allanol gan fod cynllun y radd allanol yn graddol ddiwryn i ben, felly os ydych rhwng dau feddwl, manteisiwch ar y cyfle.

Cysyllter â rhh@aber.ac.uk am ragor o fanylion.

01/08/2008

Peidiwch a cholli'r cyfle i ddysgu Llydaweg!!!

Bydd cwrs Llydaweg i ddechreuwyr yn cael ei gynnig fel rhan o ddarpariaeth y radd allanol drwy'r Gymraeg, gan Brifysgol Aberystwyth. Does dim rhaid bod a diddordeb mewn gwneud gradd i ddilyn y modiwl 40 credyd hwn a dyfernir tystysgrif ar y diwedd - gan ddibynnu ar y marciau a enillir. Bydd 5 ysgol undydd @ tua 6 awr yr un yn rhan o'r dull dysgu, a bydd hefyd gyflwyniadau Powerpoint niferus ac ymarferion ysgrifenedig i'w cyflwyno. Ni chaiff y cwrs hwn ei gynnig bob blwyddyn, felly achubwch y cyfle eleni (2008-9)... Gellir cael y manylion pellach gan Drefnydd y Radd Allanol (Elena Gruffudd), Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth: elg@aber.ac.uk (sut i gofrestru) neu gan rhh@aber.ac.uk (cynnwys y cwrs).