Showing posts with label gwersi. Show all posts
Showing posts with label gwersi. Show all posts

27/10/2010

Gwersi Llydaweg yn Aberystwyth / Kentelioù Brezhoneg en Aberystwyth

Cynhelir dosbarth Llydaweg i ddechreuwyr, ac i rai sydd am adolygu a dod i siarad yn well, ar ddydd Mawrth, rhwng 5pm a 7pm yn yr Hen Goleg, Aberystwyth.

Yr athrawes yw Riwanon Kallag, merch ifanc iaith gyntaf o gefn gwlad Treger. (Bydd hi hefyd yn un o’r pedwar athro iaith gyntaf a fydd yn dysgu yn ystod y penwythnos i ddysgu Llydaweg yng Nglan-llyn ym mis Mawrth.)

Mae Riwanon yn dysgu Cymraeg.

Cynhelir y dosbarth cyntaf ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd.

Achubwch y cyfle!

09/09/2010

BLAS AR Y LLYDAWEG

An ABK, pe Kenteliou bêr hak eas  evit deski lenn brezonek en nebeudik amzer, John Jenkins, Montroulez, 1835



Sesiwn Cael Blas ar y Llydaweg

(a Chyfarfod Blynyddol 2010-2011 Cymdeithas Cymru-Llydaw)

Dydd Sadwrn, 16 Hydref, 2010

YR HEN GOLEG, ABERYSTWYTH

10am – 5pm

Pris y diwrnod fydd £12.00 / £10.00 i aelodau

Cofrestru am 10.00 yn yr Ystafell Gymraeg, yr Hen Goleg.

Bydd y gwersi yn gorffen am 15.30 (yn yr ystafelloedd Hanes a Gwyddeleg)

Cyfarfod Blynyddol yn yr Ystafell Gymraeg tan tua 17.00


Lefelau – bydd un dosbarth i ddechreuwyr, ac un neu ddau ddosbarth arall

Bydd geiriaduron a gwerslyfrau i ddechreuwyr ar werth hefyd

(Trefnydd: Gwenno Piette)

16/03/2009

Ysgol Undydd Cymdeithas Cymru-Llydaw a Chyfarfod Cyffredinol 2009




Am y tro cyntaf erioed, cynhaliwyd ysgol undydd gan y Gymdeithas ym Merthyr Tudful. Yr unig fannau eraill y cofiaf inni gwrdd i drafod gwaith y Gymdeithas yw Caerdydd, pan oedd Guto Rhys wrth y llyw, a Thafarn y Groes, ar y ffordd i Ddolgellau, aelwyd sydd bellach yn oer ac â golwg drist iawn arni.

Er mai peth newydd inni oedd ymweld â Merthyr, nid dyma’r cysylltiad cyntaf rhwng y dref a Lllydaw, oherwydd ymwelodd y geiriadurwr Llydaweg Frañsez Vallée (1860-1949) â hi gant a deg o flynyddoedd yn ôl, yn 1899. Mae ei ddisgrifiad ohoni braidd yn ffeithiol:

'Mae tref Merthyr yng nghanol y maes glo. Nid lle mawr ydyw, am nad oes yno ond un stryd fawr, ynghyd â’r ffordd sy’n ei chroesi, ond yn bell ac yn agos, mae maestrefi a threfi eraill, lle y mae ffatrïoedd mawrion, ffowndrïau, gweithiau haearn, mwyndoddfeydd ac yn y blaen. Yn yr ardal honno mae gweithiau haearn pwysicaf Prydain Fawr. Mae Dowlais, Tredegar, Cyfarthfa a Phenydarren i’w cymharu Essen yn yr Almaen, Creusot yn Ffrainc a Pittsburg yn yr Unol Daleithiau...'

Buasai’n ddifyr pe rhoesai Vallée fwy o amser i ddisgrifio’r hyn a welodd yn hytrach nag aros i adrodd hanes y dref.

Yn y Ganolfan Gymraeg newydd ym Mhontmorlais y cynhaliwyd ein cyfarfod ni. Cefais fod Pontmorlais ei hun yn ddiddorol y tu hwnt, yn dlodaidd ac yn wael ei golwg ar y cyfan, ond yn llawn adeiladau mawrion, urddasol, yn tystio i’r ffyniant a’r bywiogrwydd a’i nodweddai ar un adeg. Mae capel Soar wedi cael ei adfer ac mewn cyflwr da, ond mae’r capel Wesleiaidd hardd gerllaw wedi bod yn siop a bellach ar werth. Dros y ffordd i’r capel hwnnw mae tafarn wag. Mae hen Sinema’r Castell â gwellt yn tyfu o’i waliau, Neuadd y Sir, adeilad mawreddog o frics cochion, yn wag ac yn dadfeilio, Theatr y Royal anferthol yn llwm ei bryd ac adeilad mawr y YMCA yn barod i’w ailddatblygu. Yn sicr, nid fun fyddai aros yno bellach... Dyma le sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â Bae Caerdydd a’r ddelwedd y ceisir ei rhoi o Gymru fel gwlad sy’n gwarchod ei threftadaeth a’i diwylliant. Yng nghanol hyn oll, ymddangosai siop llyfrau a disgiau Cymraeg Neuadd Soar fel gwerddon. Dyna braf oedd clywed cymaint o Gymraeg yno. ’Roedd tafarn y Dic Penderyn hefyd yn gwrthgyferbynnu â’r dref o’i chwmpas, yn fawr, yn gyfforddus ac yn hynod brysur.

Mynychwyd yr ysgol undydd gan un ar ddeg o ddysgwyr: Lynne Davies,
Gary Bevan, Lionel Hughes, Gerard Roll, David Hale, Iestyn ap Robert, Nic ap Glyn, Dafydd Frayling, Marc Tomos Davies, Jamie Bevan a Nona Evans, a’r athrawon oedd Janig Bodiou (lefel uchel), Lena Peron (lefel ganolradd) a Rhisiart Hincks (dechreuwyr). Er nad oedd y nifer yn fawr, ’roedd pawb yn cyd-dynnu’n dda a chawsom groeso twymgalon gan Jamie a chan bobl eraill Canolfan Soar, a digonedd o de ac o goffi heb sôn am gyflenwad da o bicau ar y maen a bisgedi... Aeth y rhan fwyaf ohonom i’r Dic Penderyn i gael cinio.

Yn bresennol yn y cyfarfod cyffredinol ’roedd Marc, Jamie, Nic, Nona, Lynne, David, Dafydd a Rhisiart (a wnaeth gadeirio a chadw’r cofnodion).

1. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf (1/3/08), a ysgrifennwyd inni gan Wenno Piette, ein hysgrifenydd, ac fe’u cadarnhawyd.

2. Darllenwyd llythyr gan Sarah Rowles yn egluro paham y teimla ei bod yn rhaid iddi ymddiswyddo fel trysorydd, a phasiwyd y dylem ddiolch iddi am ei gwaith rhagorol drwy’r blynyddoedd a dymuno’n dda iddi at y dyfodol.

3. Enwebwyd Nic ap Glyn fel trysorydd newydd a’i ethol yn unfrydol. Gwahoddwyd cynigion gan eraill i wahanol swyddi’r Gymdeithas, ond gan nad oedd neb wedi ymddiswyddo a neb yn cynnig ei enw, penderfynwyd y byddai’r swyddogion eraill yn aros yn eu lle am y tro.

4. Darllenwyd yr adroddiad ariannol manwl a baratowyd gan Sarah Rowles. Gan fod gennym arian wrth gefn a chan fod Kuzul ar Brezhoneg yn fodlon rhannu stondin gyda ni, penderfynwyd bwrw ymlaen i archebu lle yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala a’r Cyffiniau. Cytunwyd bod angen inni fuddsoddi mewn rhagor o nwyddau a phenderfynwyd y byddai Jamie yn holi am ddyfynbrisiau i grysau-T, y byddai Nic yn chwilio am gyfeiriad y cwmni sy’n gwerthu bathodynnau o’r ddwy faner wedi eu croesi, ac y byddai Rhisiart yn chwilio am y manylion ailarchebu mygiau.

5. ’Roedd unfrydedd barn nad oedd cynnal raffl yn debyg o fod yn werth y drafferth, heb inni gael cynnig gwobr fawr, a bod hynny’n annhebygol a’r economi fel y mae.

6. Diolchwyd i Jamie am gynnig lle inni yn Neuadd Soar a phenderfynwyd yr hoffem gynnal gweithgaredd yno eto, er y byddem hefyd yn debyg o gynnal ein cyfarfod blynyddol nesaf yn Aberystwyth neu yn y Gogledd, er mwyn cael lleihau problemau teithio i bobl o ardaloedd eraill.

21/07/2008

Penwythnos gyda'r Llydaweg yn Nant Gwrtheyrn

Bydd Cymdeithas Cymru-Llydaw yn cynnal ysgol Llydaweg yn Nant Gwrtheyrn o nos Wener 17 Hydref 2008 tan ddydd Sul, 19 Hydref, 2008. Bydd gwersi iaith ar wahanol lefelau, yn ôl y galw, a gwahanol weithgareddau eraill.

Gweler y manylion llawn a'r ffurflen gofrestru ar ein gwefan.