Showing posts with label pêl-droed. Show all posts
Showing posts with label pêl-droed. Show all posts

10/05/2009

Anthem genedlaethol Llydaw yn diasbedain drwy Stadiwm Ffrainc

Gwengamp a aeth â hi yng ngêm Cwpan Ffrainc. Y sgôr derfynol oedd 2 i 1. Clywyd mwy na 80,000 o bobl yn ymuno i ganu anthem genedlaethol Llydaw, Bro gozh ma zadoù, yn Stadiwm Ffrainc ym Mharis, ac Alan Stivell yn eu plith.

Dyma’r tro cyntaf i rywbeth o’r fath ddigwydd yn hanes pêl-droed yn Ffrainc. Penderfynodd yr Arlywydd Sarkozy beidio â mentro i'r cae pêl-droed i gyfarch y ddau dîm...

06/05/2009

Anthem Genedlaethol Llydaw wedi cael sêl bendith y Cynghrair Pêl-droed

Cafwyd caniatâd yr FFF (Cynghrair Pêl-droed Ffrainc) i anthem genedlaethol Llydaw, Bro Gozh ma Zadoù, gael ei chanu gan y dorf yng ngêm derfynol Cwpan Ffrainc eleni. Bydd Alan Stivell yn un o'r rhai a fydd yn arwain y canu.

Mae UDB (Undeb Democrataidd Llydaw), a oedd wedi gwneud y cais i'r FFF yn ôl ym mis Ebrill, wedi diolch i lywydd y Cynghrair am gydsynio. Gwelir hyn fel modd i gydnabod amrywiaeth diwylliannol Ffrainc ac i barchu gwahaniaethau.

Mae'n debyg na fydd modd cynnwys yr anthem fel rhan o'r drefn gydnabyddedig a swyddogol, ond gobeithir y bydd i'w chlywed yn syth cyn hynny. Gan mai Diwrnod Ewrop yw 9 Mai, diwrnod y gêm, bydd anthem Ewrop hefyd yn cael ei chanu.


.

05/05/2009

Anthem genedlaethol Llydaw i ysbrydoli ei chwaraewyr pêl-droed

Mae gêm derfynol Cwpan Pêl-droed Ffrainc, a fydd eleni rhwng Roazhon (Rennes) a Gwengamp (Guingamp), i’w chwarae ar ddydd Sadwrn, 9 Mai, ac mae gwahoddiad wedi ei estyn i’r cefnogwyr i ymgaslu, o ddydd Llun, 4 Mai, tan ddydd Gwener, 8 Mai, ar Sgwâr Senedd-dy Llydaw (Breujoù Breizh) yng nghanol Roazhon am 7 pm bob min nos i ymarfer canu ‘Bro Gozh ma Zadoù’, sef anthem genedlaethol Llydaw, y fersiwn Llydaweg o ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Gobeithir y bydd clywed y cefnogwyr yn canu yn y gêm yn tanio'r pêl-droedwyr i wneud eu gorau glas.

Addaswyd anthem genedlaethol Cymru i’r Llydaweg gyntaf gan William Jenkyn Jones (1852-1925), brodor o’r Ceinewydd, Ceredigion, un o nifer o genhadon Protestannaidd a aeth i Lydaw o Gymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Emyn dirwest yn galw ar y Llydawiaid i ‘luchio anghefnfil’ y ddiod gadarn allan o’u gwlad oedd fersiwn Jenkyn Jones, ac fe’i cyhoeddwyd yn ei gasgliad o emynau, Telen ar Christen (Telyn y Cristion - 1895). Taldir (François Jaffrennou) a oedd yn gyfrifol am y fersiwn a fabwysiadwyd fel anthem genedlaethol Llydaw ac fe’i cyhoeddwyd yn 1902, ar adeg pan oedd gwladgarwch Llydewig yn cryfhau a bron ag ennill digon o hyder i droi’n genedlaetholdeb.

Dyma’r pennill cyntaf a’r gytgan:


Ni Breizhiz a galon karomp hor gwir vro,
Brudet eo an Arvor dre ar bed tro-dro,
Dispont ’kreiz ar brezel, hon tadoù ken mat
A skuilhas eviti o gwad

O Breizh! ma Bro! Me 'gar ma bro!
Tra ma vo mor ’vel mur ’n he zro
Ra vezo digabestr ma bro!

(A throsi'n llythrennol: Nyni, Lydawiaid dewr, carwn ein gwir wlad / Mae Llydaw'n enwog drwy'r byd / Heb eu brawychu yng nghanol y rhyfel, bu i'n tadau mor dda / Golli er ei mwyn eu gwaed / O Lydaw! Fy ngwlad! Caraf fy ngwlad! / Tra bo'r môr fel mur o'i hamgylch / Bydded fy ngwlad yn ddilyffethair!)

http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=14988
http://www.ibiblio.org/pub/archives/welsh-l/welsh-l/1994/Mar/Hen-Wlad-fy-Nhadau
http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JEN-1852.html

Beth am wylio un o'r fersiynau ar y We?

http://www.youtube.com/watch?v=4UCrEk9HY7c

23/04/2009

Y Llydawiaid yn sicr o ennill y Cwpan Pêl-droed

Achlysur cwbl Lydewig fydd Cwpan Pêl-droed Ffrainc eleni.

Enillwyd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth ddoe, gyda thîm Gwengamp (Guingamp), Llydaw, yn chwarae i ffwrdd yn erbyn Tolosa (Toulouse), Ocsitania. Y sgôr oedd: Tolosa 1 – Gwengamp 2.

Echdoe, ’roedd Roazhon (Rennes) wedi ennill yn erbyn Grenoblo (Grenoble), ac felly bydd gêm derfynol y Cwpan, a chwaraeir ym Mharis ar 9 Mai, rhwng prifddinas Llydaw a Gwengamp.