06/05/2009

Anthem Genedlaethol Llydaw wedi cael sêl bendith y Cynghrair Pêl-droed

Cafwyd caniatâd yr FFF (Cynghrair Pêl-droed Ffrainc) i anthem genedlaethol Llydaw, Bro Gozh ma Zadoù, gael ei chanu gan y dorf yng ngêm derfynol Cwpan Ffrainc eleni. Bydd Alan Stivell yn un o'r rhai a fydd yn arwain y canu.

Mae UDB (Undeb Democrataidd Llydaw), a oedd wedi gwneud y cais i'r FFF yn ôl ym mis Ebrill, wedi diolch i lywydd y Cynghrair am gydsynio. Gwelir hyn fel modd i gydnabod amrywiaeth diwylliannol Ffrainc ac i barchu gwahaniaethau.

Mae'n debyg na fydd modd cynnwys yr anthem fel rhan o'r drefn gydnabyddedig a swyddogol, ond gobeithir y bydd i'w chlywed yn syth cyn hynny. Gan mai Diwrnod Ewrop yw 9 Mai, diwrnod y gêm, bydd anthem Ewrop hefyd yn cael ei chanu.


.

1 comment:

Anonymous said...

newyddion syndod o gadarnhaol gan y Ffrancwyr!

Oes unrhyw clips YouTube neu felly o bobl yn ymarfer yn Roazon?

Fydd rhywun yn rhoi clips o'r canu cyn y gem ar YouTube wedi'r ffeinal?

... h.y. oes modd i ti holi?!