Showing posts with label siaradwyr Llydaweg. Show all posts
Showing posts with label siaradwyr Llydaweg. Show all posts

01/05/2009

Llydaw fel y mae - barn Padrig an Habask

Mae rhifyn 118 (Ebrill 2009) o’r cylchgrawn Al Lanv (Y Llanw) newydd fy nghyrraedd, a sylwadau’r golygydd, Padrig an Habask, Llydawr sy’n rhugl ei Gymraeg, mor ddiflewyn ar dafod ag arfer:

'Mae Fañch Broudic wedi darganfod bod nifer y rhai sy’n siarad Llydaweg yn lleihau ac mai pobl oedrannus yw’r rhan fwyaf ohonynt, a dyma fe’n cyhoeddi hynny. Ie, gwaetha’r modd, ond beth sy’n cael ei wneud i newid y duedd honno heddiw? Fawr ddim byd! Oes, mae llawer o bobl yn siarad am y Llydaweg ac am ei hawliau. Petasai hanner ohonyn nhw'n dysgu’r iaith byddai pethau’n dechrau newid, ond mae’n haws iddyn nhw eistedd ar eu pen-ôl a siarad Ffrangeg – Llydawyr da ac yn barod i wynebu her, cofiwch.

Gyda golwg ar addysg, er i Lywodraeth Rhanbarthol Llydaw ymddangos yn benderfynol o godi nifer y disgyblion sydd yn dysgu Llydaweg, naill ai drwy eu trwytho yn yr iaith neu mewn ffrydiau dwyieithog, mae pethau wedi aros yn eu hunfan, heb hanner digon o hysbysebu, y grym i ddod i benderfyniad yn nwylo byrddau rheoli’r ysgolion (ar rektoriezh), a hwythau’n gwybod yn iawn sut i rwystro datblygu addysg Lydaweg... Yn dawel bach, deil rhai o’n gwleidyddion i alw am yr hawl i Lydaw i gael rheolaeth dros ei hysgolion a’i diwylliant. Heb godi eu llais yn rhy uchel, er hynny, rhag ofn cythruddo eu cyfeillion sy’n credu mewn canoli grym!'


 rhagddo i sôn am y siarad gwag am ailuno Llydaw drwy gynnwys ardal Naoned (Nantes) ynddi, ac am eironi’r modd y llwyddodd TV Breizh, sydd wedi rhoi’r gorau i ddarlledu yn Llydaweg, i gael ei ganmol gan y cyfryngau am fod mor hael â rhoi ei holl raglenni yn yr iaith i gymdeithas Dizale. ‘Pe bai gan y sianel ronyn o anrhydedd byddai’n newid ei henw,’ meddai.

Mae Al Lanv wastad yn amrywiol iawn ei gynnwys, ac yn y rhifyn hwn mae erthyglau ar agweddau ar wleidyddiaeth, ar hanes ac ar newyddion Llydaw, Cymru, Seland Newydd, a’r Unol Daleithiau, cerddi, stori fer gan Alan Botrel, a golwg ar ffilmiau ac ar lyfrau diweddar,

Gwybodaeth bellach: al-lanv@wanadoo.fr

22/04/2009

Cloc yr Iaith

'Brezhoneg bemdez' (Llydaweg bob dydd) - graffiti ar gampws Prifysgol Roazhon (Rennes) 2

Edrychwch ar http://ouiaubreton.com/?article245 a chewch weld amcangyfrif o nifer y siaradwyr Llydaweg, a sut y mae’r nifer yn cyson ddisgyn o awr i awr ac o ddydd i ddydd.

197,195 yw’r ffigur wrth imi ysgrifennu hyn.


Mae’r Llydaweg yn iaith sydd mewn gwir berygl o ddiflannu, yn ôl UNESCO. Eto i gyd, mae nifer mawr o bobl yn dal i’w medru ac mae modd ei defnyddio mewn llawer o fannau, os holwch.

Mae’r rhagolygon yn dangos bod 92% o’r Llydawiaid yn dweud eu bod yn bleidiol i gadw’r iaith, ac mae cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y rhieni sy’n mynnu addysg Lydaweg i’w plant.

Os meddyliwn am y sefyllfa yn Nghymru, gallwn yn hawdd deimlo’n hunanfodlon, am fod cynifer o siaradwyr Cymraeg, am fod addysg Gymraeg yn ffynnu, gan fod y cyfrifiadau’n dweud bod cynnydd yn nifer y siaradwyr ac am fod modd clywed yr iaith ar y stryd mewn llawer man o hyd. Tybed, er hynny, beth a ddywedai cloc y Gymraeg pe bai’n dangos faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad (a’i ddarllen) o ddydd i ddydd gan y rhai sy’n ei medru?