Mae rhifyn 118 (Ebrill 2009) o’r cylchgrawn Al Lanv (Y Llanw) newydd fy nghyrraedd, a sylwadau’r golygydd, Padrig an Habask, Llydawr sy’n rhugl ei Gymraeg, mor ddiflewyn ar dafod ag arfer:
'Mae Fañch Broudic wedi darganfod bod nifer y rhai sy’n siarad Llydaweg yn lleihau ac mai pobl oedrannus yw’r rhan fwyaf ohonynt, a dyma fe’n cyhoeddi hynny. Ie, gwaetha’r modd, ond beth sy’n cael ei wneud i newid y duedd honno heddiw? Fawr ddim byd! Oes, mae llawer o bobl yn siarad am y Llydaweg ac am ei hawliau. Petasai hanner ohonyn nhw'n dysgu’r iaith byddai pethau’n dechrau newid, ond mae’n haws iddyn nhw eistedd ar eu pen-ôl a siarad Ffrangeg – Llydawyr da ac yn barod i wynebu her, cofiwch.
Gyda golwg ar addysg, er i Lywodraeth Rhanbarthol Llydaw ymddangos yn benderfynol o godi nifer y disgyblion sydd yn dysgu Llydaweg, naill ai drwy eu trwytho yn yr iaith neu mewn ffrydiau dwyieithog, mae pethau wedi aros yn eu hunfan, heb hanner digon o hysbysebu, y grym i ddod i benderfyniad yn nwylo byrddau rheoli’r ysgolion (ar rektoriezh), a hwythau’n gwybod yn iawn sut i rwystro datblygu addysg Lydaweg... Yn dawel bach, deil rhai o’n gwleidyddion i alw am yr hawl i Lydaw i gael rheolaeth dros ei hysgolion a’i diwylliant. Heb godi eu llais yn rhy uchel, er hynny, rhag ofn cythruddo eu cyfeillion sy’n credu mewn canoli grym!'
 rhagddo i sôn am y siarad gwag am ailuno Llydaw drwy gynnwys ardal Naoned (Nantes) ynddi, ac am eironi’r modd y llwyddodd TV Breizh, sydd wedi rhoi’r gorau i ddarlledu yn Llydaweg, i gael ei ganmol gan y cyfryngau am fod mor hael â rhoi ei holl raglenni yn yr iaith i gymdeithas Dizale. ‘Pe bai gan y sianel ronyn o anrhydedd byddai’n newid ei henw,’ meddai.
Mae Al Lanv wastad yn amrywiol iawn ei gynnwys, ac yn y rhifyn hwn mae erthyglau ar agweddau ar wleidyddiaeth, ar hanes ac ar newyddion Llydaw, Cymru, Seland Newydd, a’r Unol Daleithiau, cerddi, stori fer gan Alan Botrel, a golwg ar ffilmiau ac ar lyfrau diweddar,
Gwybodaeth bellach: al-lanv@wanadoo.fr
No comments:
Post a Comment