A ninnau yng Nghymru bron ag anghofio’r oes pan na cheid odid ddim arwyddion dwyieithog, heblaw am ‘Llwybr Cyhoeddus’ a ‘Cyfleusterau Cyhoeddus’ hwnt ac yma, mae’n rhyfedd gweld cynghorwyr yng Ngogledd-ddwyrain yr Alban yn codi bwganod am ddiogelwch ac am gostau wrth i arwyddion Gaeleg a Saesneg ddechrau cael eu codi yno. Ymddengys bellach y bydd 9 allan o 10 o gynghorwyr Cothnais yn cefnogi cynnig a fydd yn golygu na chaiff ond pedwar arwydd dwyieithog eu codi yn yr ardal honno.
http://www.pressandjournal.co.uk/Article.aspx/900201?UserKey
Yn Llydaw, er bod arwyddion dwyieithog yn gyffredin iawn erbyn hyn, yn ôl yr ardal, mae rhai gwleidyddion yn dal i’w hamau, ac yn wir yn eu gweld yn rhan o gynllwyn gwrth-Ffrangeg. Mae Marine Le Pen, merch y gwleidydd asgell-dde Jean-Marie Le Pen, wedi lleisio ei gwrthwynebiad i arwyddion ffyrdd dwyieithog yn Llydaw o’r blaen, ac mewn darlleniad radio ar Galanmai eleni bu’n sôn eto am ‘beryglon’ dwyieithrwydd.
Ofni y mae Marine Le Pen y gallai cydnabod ieithoedd lleiafrifedig fod yn gam tuag at gyfreithloni’r Arabeg. Ystyria fod Siarter Ewrop i Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, a gadarnhawyd gan bron pob gwlad yn Ewrop heblaw Ffrainc a Rwsia, yn debyg i geffyl pren Caerdroea, ac y byddai’n agor y ffordd i’r Arabeg i danseilio’r Ffrangeg a’i dinistrio. Mewn mannau yn Ffrainc lle y mae’r Arabeg yn iaith leiafrifol, byddai’n rhaid darparu dogfennau swyddogol yn yr iaith honno, meddai, a dyna fyddai dechrau’r diwedd...
http://www.youtube.com/watch?
v=H8rF1wWnsf0http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=14974
No comments:
Post a Comment