Os truenus yw'r unig air i ddisgrifio lle a roddir i'r Llydaweg ar y teledu, mae'r Llydawyr wedi sylweddoli bod y We yn rhoi modd iddynt i greu, ac i ddarlledu, rhaglenni Llydaweg difyr ac amrywiol. Bob mis mae rhaglen Webnoz yn cael ei darlledu'n fyw o rywle gwahanol yn Llydaw a cheir ynddi ganu, trafod materion cyfoes, sgwrsio a thipyn bach o bob dim.
Darlledwyd y rhaglen Webnoz ddiwethaf ar 26 Ebrill, o Frest, a buwyd yn trafod lle'r Llydaweg yn y brifysgol. Cafwyd cerddoriaeth gan Yann Queffeleant ac eraill.
Caiff y Cymry wylio rhaglenni teledu Llydaweg yn ddigon rhwydd bellach.
http://www.surlaplace.tv/voflashlive/live.php?stream=armorlive_1@7077&path=& id=153
I weld hen raglenni Webnoz, cliciwch ar http://www.brezhoweb.com/?mode=webnoz
No comments:
Post a Comment