04/05/2009

Marsel Klerg (1912-84), offeiriad a ymroes i warchod y Llydaweg

Y Gymraeg yng nghefn gwlad Llydaw
Yn ôl yn 70au’r ugeinfed ganrif, cofiaf glywed sôn am offeiriad yng nghanol cefn gwlad Llydaw a oedd yn medru Cymraeg ac a ddaliai i gynnal yr offeren yn Llydaweg, yn ddieithriad, yn ei eglwys. Offeiriad Bulien (Buhulien), nid nepell o Lannuon (Lannion), oedd hwn, sef y Tad Marsel Klerg (Marcel Le Clerc). Yn ddiweddarach, gelwais i’w weld ddwywaith neu dair, a mynd gydag ef, un tro, i ymweld ag Anjela Duval, y bardd o amaethwraig o Traoñ an Dour. Cefais fy mherswadio hefyd i danysgrifio i’w gylchgrawn Barr-Heol, war Feiz ha Breizh (Pelydryn o Haul, ar y Ffydd ac ar Lydaw), er mwyn yr iaith yn hytrach nag er mwyn y ffydd... Gŵr a fyddai, yn aml iawn, ar bigau’r drain oedd Klerg, ond fe’m trawyd hefyd gan ei hynawsedd, ei frwdfrydedd, ei ddireidi, a’i groeso arbennig i’r Cymry.

Dechreuodd Klerg ddysgu Cymraeg tua 1940, a bu’n gwrando ar raglenni radio Cymraeg, yn y cyfnod pan gaent eu darlledu ar y donfedd ganol ac felly i’w clywed mor bell i ffwrdd â Bro-Dreger. Achos gofid iddo oedd trosglwyddo’r rhaglenni i VHF, a llais Cymru’n cael ei daro’n fud unwaith ac am byth i un o’i wrandawyr mwyaf ffyddlon.

Gŵr a safai ar ei ben ei hun, yn erbyn y llif, oedd Klerg, a gweithiai’n ddiildio dros grefydd a oedd yn cilio a thros iaith a oedd yn peidio â chael ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Yn baradocsaidd, ac yntau’n un o bennaf amddiffynwyr y Llydaweg, ’roedd yn frodor o Ddwyrain Llydaw, hynny yw o fro lle nad oes traddodiad diweddar o siarad Llydaweg. Ym Plezeved (Plemet), tua hanner ffordd rhwng Roazhon (Rennes) a Karaez (Carhaix) a rhyw bymtheng milltir ar hugain o Sant-Brieg (Saint-Brieuc) y’i ganed ef, ac nid ymroddodd i feistroli’r iaith, tan 1932, yn y cyfnod pan oedd yn y coleg hyfforddi yn Sant-Brieg.

Dyddiau tywyll
Fel y gŵyr pawb, blynyddoedd tywyll i Lydaw oedd rhai’r Ail Ryfel Byd. Yn 1944, cafodd Klerg y newydd ysgytwol fod Pêr-Mari Lec’hvien, cyd-offeiriad a adwaenai’n dda, wedi cael ei lofruddio yn ei reithordy gan griw anhysbys o fechgyn y Gwrthsafiad. Wedi ei fwrw a’i ffonodio, lluchiwyd corff yr offeiriad llengar i ffos.

Mynd heb eu dal a wnaeth y llofruddion, yn union fel y rhai a laddodd Yann-Vari Perrot, yr offeiriad a olygai’r cylchgrawn Feiz ha Breiz (a oedd yn rhagredegydd i gylchgrawn Klerg, Barr-Heol). Yn yr un modd, lladdwyd y ddau frawd gwlatgar Aogust Bocher (ar Yeodet) ac Emil Bocher. Pan welwn wendid y mudiad cenedlaethol yn Llydaw, mae’n weddus i ni yng Nghymru, gofio mai â’u gwaed y talodd cynifer o Lydawiaid am sefyll dros eu gwlad a’i thraddodiadau.

Yn sgil y llofruddiaeth, hyd yn oed yn fwy na chynt, teimlai Klerg ei fod wedi ei alw i sefyll yn y bwlch ac i wneud a allai dros Lydaw, dros y Llydaweg, a thros Gatholigiaeth, hyd yn oed os gallai yntau wynebu dial y gwrth-genedlaetholwyr.

Y Cymry yn Llydaw yn 1947
Erbyn 1947, mae’n amlwg fod gan Klerg fwy na chrap ar y Gymraeg. Y flwyddyn honno, aeth dirprwyaeth o Gymru i Lydaw i weld a fedrai’r Cymry estyn cymorth i’r Llydawiaid a oedd yn cael eu herlid gan lywodraeth Ffrainc, wedi i’r Rhyfel ddod i ben. I Klerg y rhoddwyd y gwaith o gyfieithu’r areithiau a draddodwyd.

Yn Sant-Brieg (Saint-Brieuc) cafodd y Cymry glywed anerchiadau yn Llydaweg ac yn Gymraeg, a heb ei enwi, cyfeirir at Klerg yn yr adroddiad Ffrangeg ar yr ymweliad a gyhoeddwyd gan Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Rapport sur la visite en Bretagne de la délégation galloise (1947):

‘Yn Sant-Brieg, cawsom glywed araith a draddodwyd gan offeiriad, mewn Cymraeg graenus, yn wir, mewn Cymraeg gwell, ysywaeth! nag sy’n cael ei siarad gan lawer o Gymry, Cymraeg a ddysgodd drwy wrando ar sgyrsiau radio a chyrsiau radio.’

Cyhoeddwyd testun ei anerchiad, ynghyd â chyfieithiad ohono i’r Llydaweg, yn y cylchgrawn Al Liamm. Mae’r frawddeg agoriadol yn dangos mor uchelgeisiol oedd Klerg wrth fynd ati i roi ei adroddiad cyntaf yn yr iaith y bu’n dysgu, i raddau helaeth, ar ei ben ei hun.

‘Er fy mod yn teimlo’n falch o’ch croesawu, yr wyf yn ofni na byddwch yn fy neall yn dda, oblegid y mae’r tro cyntaf i mi siarad Cymraeg, ond gobeithiaf y byddwch mor garedig â maddeu i mi ddefnyddio yn eich presenoldeb chwi, lenorion gwych a dysgedigion enwog o Gymru Wen, rhywfath (sic) o Gymraeg bratiog.’

Prif fyrdwn ei araith oedd diolch i’r Cymry am roi sylw i’r Llydaweg a dangos iddynt cyn lleied o ryddid a geid i ddatblygu ac i ddefnyddio’r iaith honno:

‘Eithr y mae’ch presennoldeb (sic) yma ac eich taith trwy Lydaw yn brawf disglair o barch rhywrai tuag at y Cenhedloedd Celtig … A dyna i ni wers ar ein gallu. Onid yw’n hen bryd i’r holl Genhedloedd Celtig ddwyn ein hunain i berthynas ac i gyfathrach agosach â’i gilydd?

Pwysleisiaf ar (sic) un peth yn unig. Ar yr iaith. Y mae’r Llydaweg yn cael ei halltudio’n llwyr o’r holl ysgolion swyddogol – ac eithrio’r Brifysgol – ac o ran fwyaf o’r ysgolion preifat...’

Wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt, teimlai Klerg ei bod yn wir drueni nad oedd y Cymry wedi cynnal eu diddordeb yn ymdrechion y Llydawiaid i ennill hawliau ieithyddol. ’Roedd yr ymweliad arbennig hwnnw yn 1947 fel gwennol heb wanwyn i’w ddilyn. ‘Beth a ddaeth o fwriadau’r Cymry a ddaeth draw i Lydaw yn 1947 i ymchwilio i agwedd y llywodraeth at y Llydawiaid a’u hiaith?’ holodd yn 1969. ‘Dim ond ergyd ffon yn y dŵr oedd hi. ’Does dim byd i’w wneud! Dim o gwbl!’

Cyfieithu
Amlygir diddordeb Klerg yng Nghymru ac yn y Gymraeg gan y newyddion o Gymru a ymddangosai ar dudalennau Barr-Heol a hefyd gan ei gyfieithiadau o’r Gymraeg. Yn Al Liamm cyhoeddodd gyfieithiad o’r stori fer ‘Rhigolau Bywyd’ gan Kate Roberts, sef ‘Un devezh hañv’, a bu am flynyddoedd lawer yn gweithio ar ei gyfieithiadau o’r Hengerdd.

Cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Canu Llywarch Hen yn 1983 gan Mouladurioù Hor Yezh, a’i gyfieithiad o Canu Aneirin yn 1984, gan yr un cyhoeddwr. Cafwyd argraffiad newydd o’i gyfieithiad o Canu Llywarch Hen, ynghyd â rhagymadrodd gan Yann-Ber Piriou, yn 2000. Yn yr argraffiad hwnnw, Barzhoniezh Lewarc’h Hen, cafwyd caniatâd i gynnwys testun Cymraeg Ifor Williams ochr yn ochr â’r Llydaweg, caniatâd yr oedd Gwasg Prifysgol Cymru wedi ei wrthod i Klerg ei hun.

Bydd dyfynnu tri o’r englynion mwyaf adnabyddus sy’n rhan o’r gyfres ‘Claf Abercuawg’ yn rhoi syniad o’r modd y llwyddwyd i roi gwedd Lydewig ar benillion sydd, mewn gwirionedd, yn rhan o gydetifeddiaeth Frythonaidd:

En Aber Kuog e kan ar c’houkouged
War skourroù leun a vleuñv.
Koukoug fistilherez, dalc’h da ganañ!

En Aber Kuog e kan ar c’houkouged
War skourroù leun a vleuñv.
Gwa ar c’hlañvour o c’hlev hep gallout fiñval.

En Aber Kuog e kan ar c’houkouged
Trist eo va spered o soñjal en unan
A c’helle o c’hlevout ha na ra mai.

Nid o’r Gymraeg yn unig y cyfieithai. Mae ei gyfieithiadau Romeo ha Julieta ac Othello wedi cael eu cyhoeddi yn diweddar.

Peryglon ffocloreiddio

Fel Roparz Hemon, ac fel nifer mawr o Gymry yn y mudiad cenedlaethol yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, credai Klerg mai drwy gael cymdeithas rannol uniaith yn unig y gellid cadw iaith fach rhag ymddatod a diflannu. ‘Ni ddywedaf y caiff ein hiaith ei hachub, na’r Gymraeg ychwaith, drwy ddwyieithedd,’ ysgrifennodd.

’Roedd yn gas gan Klerg yr arfer Tynwaldaidd o gynnal offerennau Llydaweg gogyfer ag achlysuron arbennig yn unig. Ystyriai fod hynny’n datgan i’r byd fod yr iaith yn perthyn i’r oes a fu ac i’w harddangos fel eitem mewn amgueddfa. ‘Yn y pen draw, mae’n dangos bod crefydd a’r iaith yn dda fel hynafiaethau yn unig’, ysgrifennodd.


Klerg wrth y gofeb i'r gantores werin Marc'harid Fulub, ym mhentref Plûnet (Pluzunet)

Cywirdeb iaith
Fel ieithgarwr, tristáu a wnâi wrth weld safon iaith siaradwyr Llydaweg yn dirywio’n gyson. Mynnai fod gwir gariad at iaith yn cael ei fynegi yn y gofal a gymerai pobl i’w meistroli a’i defnyddio, ac nid mewn sloganau a geiriau gwag.

Mynnai Klerg fod gofyn i’r dysgwr ddyfalbarhau i’w drwytho ei hun yn y Llydaweg, ac ’roedd yn gyfrifoldeb ar olygyddion cylchgronau eu bod yn gwneud pob o fewn eu gallu i wella mynegiant anfoddhaol a gwallau gohebwyr. ‘Ac felly, ni waeth pa mor feichus fo’r gwaith, ni ddylai neb sy’n ysgrifennu o ddifrif adael dim nad yw’n drwyadl Lydewig yn ei gylchgrawn,’ barnai. ‘Os golyga hynny ei bod yn rhaid iddo benodi criw o feirniaid, neu o gywirwyr, i ymhél â’r gorchwyl hwnnw, dyna yw ei ddyletswydd. Yn y modd hwnnw yn unig y gellir cael trefn ar bethau a chadw ein hiaith fel y caiff ei throsglwyddo yn ei holl ogoniant i’r cenedlaethau a ddêl.’

Diweddglo
Un peth sy’n sicr, pe buasai Klerg yma heddiw, byddai’n dal i weithio dros y Llydaweg, ac ni fyddai’n rhannu ei weithgarwch rhwng yr iaith honno a’r Ffrangeg.

Yn 1978, oherwydd gwaeledd, ac yn neilltuol am ei fod yn colli ei olwg, bu’n rhaid i Klerg roi’r gorau i olygu Barr-Heol, gwaith yr oedd yn ei wneud er 1952.

Bu farw, yn 72 oed, yn 1984.

Yn 2005 derbyniodd Prifysgol Roazhon draethawd doethuriaeth arno, yn Llydaweg, gan Christophe Cochin.


Talfyriad ac addasiad o’r erthygl, ‘Dros Lydaw ei Wlad’, gan Rhisiart Hincks, yn Breizh-Llydaw, 43 (Mai 2006).

No comments: