04/05/2009

Rhaid yw ei thynnu i lawr

Ddydd Iau diwethaf pan godwyd ‘ikurrina’, baner Gwlad y Basg, ar Neuadd y Dref, Atarrabia, Nafarroa (Navarra), daeth galwad yn syth gan lywodraeth Nafarroa i’w thynnu i lawr. Dywedodd y llywodraeth ei bod yn cael cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau mai dyna a ddigwyddai. Dywedodd hefyd, am i Peio Gurbindo (NaBai), maer Atarrabia, godi’r faner, y gallai Alberto Catalan, Is-lywydd yr UPN (Unión del Pueblo Navarro) alw iddo gael ei gosbi o dan y gyfraith. Myn Gurbindo, fodd bynnag, y bydd y faner yn cwhwfan uwchben Neuadd y Dref cyhyd ag y bo modd.

Ym marn Catalan, mae agwedd Gurbindo ‘yn gwneud y drefn ddemocrataidd a chyfraith y wladwriaeth yn gyff gwawd.’ Mae Deddf y Symbolau yn Nafarroa yn gwahardd codi ‘ikurrina’ ar neuaddau tref yno.

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, cynhaliwyd refferendwm yn Atarrabia, a’r pryd hynny ’roedd y bobl yno o blaid ‘rhoi statws swyddogol i’r faner.’

http://www.berria.info/albisteak/33604/Atarrabiako_udaletxetik_ikurrina_kentzeko_eskatu_du_Nafarroako_Gobernuak.htm

No comments: