30/04/2009

Manylion Cyrsiau Haf i Ddysgu Llydaweg

Drwy gyfrwng y Ffrangeg, wrth gwrs, y cynhelir y cyrsiau haf i ddysgwyr Llydaweg yn Llydaw, felly os ydych am ddysgu Llydaweg yn hytrach na Ffrangeg, e.e. am eich bod eisoes yn medru Ffrangeg, neu am eich bod am gyfathrebu â'r Llydawiaid drwy gyfrwng eu hiaith Geltaidd yn hytrach na thrwy iaith fawr (wedi'r cwbl, tanseilio'r ieithoedd bach a wna'r rheini yn ddi-ffael), y peth gorau yw dysgu ychydig o Lydaweg yma yng Nghymru, a mynd wedyn ar gwrs haf KEAV yn Llydaw. Yn KEAV mae pob dim yn Llydaweg ac nid oes dosbarth i ddechreuwyr pur.

Os hoffech gael manylion y cyrsiau, ewch i


a chliciwch ar Levrig stajoù-hañv ar waelod y tudalen.

Ar KEAV, gweler:

ac wrth gwrs:

No comments: