06/05/2009

Arferion a Dywediadau’r Llydawiaid, yn ôl 'Le Trésor du Breton Parlé', gan Jules Gros

Ganwyd Jules Gros ym Mharis, ond pan oedd yn dal yn fach, cafodd ei roi yng ngofal ei fam-gu, a oedd yn byw yn Nhredraezh, nid nepell o Lannuon (Lannion). Yno y treuliodd saith mlynedd cyntaf ei fywyd. Llydaweg oedd iaith yr aelwyd, ac ni ddechreuodd ddysgu Ffrangeg hyd nes iddo gael ei anfon i’r ysgol yn 1895. Pan oedd yn saith oed, dychwelodd i Baris, lle yr arhosodd am ddwy flynedd, cyn i’w fam benderfynu mynd yn ôl gydag ef i Dredraezh i fyw. Er ei fod yn dal i ddeall Llydaweg, ’roedd wedi colli’r arfer o’i siarad erbyn hynny, ac yn ôl yng nghefn gwlad Llydaw, credai ei fam-gu fod ei hŵyr yn anfodlon siarad â hi mwyach. Yn ôl yr hanes, pan ddechreuodd hi lefain y glaw, gan fod hynny'n peri'r fath ofid iddi, cyffyrddwyd â chalon yr un bach a thyngodd yntau y byddai’n gwneud ei orau glas i warchod iaith ei gyndeidiau. (Yn y llun gwelir Jules Gros yn 102 oed yn 1992. ’Roedd yn dal i gofio ychydig o Gymraeg.)

Cyn y Rhyfel Mawr dechreuodd gasglu priod-ddulliau Bro-Dreger (Trégor). Ei fam, â’i chyfoeth o Lydaweg, oedd ei hysbysydd cyntaf. Bu wedyn yn crwydro er mwyn cael siarad â physgotwyr ac â ffermwyr ei ardal. Wedi iddo ymddeol, dechreuodd roi trefn ar y nodiadau helaeth ’roedd wedi eu casglu ar hyd hanner can mlynedd, ac ym 1965 cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Le Trésor du Breton Parlé. Gwerthwyd pob copi ohono ymhen ychydig ac fe’i hadargraffwyd yn 1970, y flwyddyn a welodd gyhoeddi’r ail gyfrol o’r gwaith. Cwblhawyd yr astudiaeth fawr hon gan drydedd a phedwaredd gyfrol.

Ceir dros 80,000 o briod-ddulliau gwerin yn y llyfrau hynny. Drwyddynt gellir dod i adnabod agweddau ar y diwylliant gwledig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae rhai ohonynt, yn enwedig y rhai sy’n edrych ar y modd i ragweld y tywydd drwy graffu ar yr awyr, yn dal yn eithaf cyfarwydd. Ni fyddai neb yn synnu wrth glywed Sklaer eo al loar; skornañ a raio (Mae’r lleuad yn glir; bydd hi’n rhewi), neu Kelc’hiet eo an heol; warc’hoazh e raio glav (Mae cylch am yr haul; cawn law yfory), neu eto Pa vez kelc’hiet al loar e vez tost ur barr-amzer fall (Pan fo cylch am y lleuad, mae storm yn agos.) Diddorol, fodd bynnag, yw’r dywediadau darluniadol a arferir pan fo’r tywydd yn wael iawn: An amzer-mañ zo a-berzh an diaoul (Y diafol sydd wedi anfon y tywydd hwn), a phan fydd yr haul yn tywynnu yng nghanol cawod dywedir bod An diaoul o pilat e wreg (Y diafol yn rhoi crasfa i’w wraig.)

Mae’r ffyrdd o ddarogan tywydd gwael yn niferus – drwy edrych ar yr haul, ar y môr, ystyried y gwynt, sylwi ar gannwyll yr Ysbryd Glân (tân rigin), neu drwy graffu ar olwg y gwawn wedi ei estyn ar draws y ddaear. Gall anifeiliaid hefyd ein helpu i ddarogan gwynt a glaw: Er goañv, pa vez ar c’hizhier o lemel o barv e vez amzer fall (Yn y gaeaf, pan fo cathod yn eillio eu barf – h.y. yn pasio eu troed uwchben eu clust – bydd y tywydd yn wael.) Pa weli ur c’hi o c’hounit e gerc’h, lavar hardizh e vo glav souden (Pan weli gi’n ennill ei geirch – h.y. yn mynd ar ei gefn ac yn ysgwyd ei bawennau – gelli ddweud y bydd glaw ymhen dim o dro.) Ne glevez ket an drask oc’h ober lien? Amzer fall a zo da vezañ adarre (Oni chlywi di’r dresglen yn nyddu lliain – h.y. yn canu - ? Cawn dywydd mawr eto.) Pa vez gwelet ar flistrerezed-dour o redek war an hentoù e vez seblant amzer fall (Mae gweld y siglennod yn rhedeg ar y ffyrdd yn arwydd o dywydd drwg.)

’Roedd y cysylltiadau rhwng y lleuad a’r môr yn dra chyfarwydd: En deiz ma vez krouet al loar ez eo an nevez. Pa ne vez loar ebet, neuze, e vez an nevez bihan. (Y dydd pan ddaw’r lleuad i’r golwg mae’n llanw mawr – neu’n lleuad newydd. Pan na fydd y lleuad i’w gweld, dyna’r llanw bach.) A phan fo’n farddwr (llanw bach), bydd y rhai sy’n arfer mynd i hel cregyn ar hyd y glannau yn aros gartref, oherwydd gant ar marvor ne vez ket kavet a ormel (Pan fo’n farddwr, ni cheir clustiau môr).

Byddai’r ffermwyr hefyd yn edrych ar yr awyr er mwyn barnu a oedd yr adeg orau i hau wedi dod: Ordinal e sellomp ar c’houlz da hadañ; gant an diskar-loar a vez graet. (’Rydym wastad yn ystyried pryd sydd orau i hau: gwnawn hynny pan fo’r lleuad yn ei gwendid). Gyda rhai mathau o winwns, fodd bynnag, ’roedd hi’n wahanol: An ognon gwenn a vez hadet e-kerzh diskar-loar miz Eost (Caiff winwns gwynion eu hau pan fo’r lleuad ar gil ym mis Awst.) Cymerid gofal gyda’r grawn hefyd, oherwydd An ed, a vez lavaret, a dap ar penndu pe vez hadet gant an nevez (Maent yn dweud bod yr ŷd yn dal y benddu – h.y. math o ffwng – pan gaiff ei hau pan fo’n lleuad newydd.)

Ni fydd neb yn synnu at y cynghorion a roddid ynghylch sut i wella clefydau cyffredin drwy ddefnyddio planhigion a gesglid yn y caeau, er bod gwybodaeth am y fath arferion, yn sgil datblygiadau mewn meddyginiaeth, yn bur ddieithr i ni heddiw. Dyma ychydig ohonynt – y ddau olaf yn ddigon annisgwyl, efallai:

Ul louf-bleiz a veze lakaet gwechall war an devadennoù.
(Ers llawer dydd, byddai coden fwg [‘rhech ddistaw’r blaidd’ yn llythrennol] yn cael ei rhoi ar losgiadau.)

Ar wir-irvinenn a zo mat he gwrizioù ouzh ar boan-izili.
(Mae gwreiddiau cwlwm y coed yn dda at y gwynegon.)

Louzaouenn-ar-groaz a zo mat da dennañ ar gwad bloñset.
(Mae llysiau’r hudol yn dda i roi ar glais.)

Rouanez-ar-pradoù a zo mat da lakaat an dud da droazhañ; birviñ dour war ar gwrizioù a vez graet.
(Mae erwain yn dda at wneud i bobl droethi; caiff y gwreiddiau eu berwi mewn dŵr.)

Pa vezer bet piket gant ur wenanenn pe ur wespedenn ne vez ken met frotañ ar c’hroc’hen gant kaoc’h-skouarn.
(Wedi i ddyn gael ei bigo gan wenynen neu gan wenynen feirch, y cwbl sydd ei angen yw rhwbio’r croen â chwyr clustiau [‘cachu clustiau’ yn llythrennol].)

Evit gwellaat ar bennsac’h e vez lavaret teir gwech diouzhtu hep dizalaniñ: ‘Pennsac’h, pennsac’h! Bout da benn er sac’h, a-benn warc’hoazh e vo yac’h!’
(I wella’r bensach – y dwymyn doben / clwy’r pennau – mae dyn yn dweud deirgwaith yn sydyn, heb ollwng ei anadl: ‘Pensach, pensach! Gwthia dy ben i’r sach ac yfory bydd yn iach!’)

’Roedd hefyd blanhigion na chasglwyd mohonynt erioed gan neb, ond bod argoelion cryf yn gysylltiedig â hwy: Bez’ a zo ur c’heotenn hag ur vezhinenn hag a gelc’h (…) se n’eo ket gevier. (Mae math o wellt swyn a math o wymon swyn (…) nid celwydd mo hynny.) Rhoddwyd sawl enw ar y gwelltyn hud: geotenn real (gwelltyn brenhinol), gourc’heotenn (gorwelltyn), saouzanenn (syfrdanwr), heb anghofio am y gorvezhin (gorwymon) a’r gwir-vezhinenn (gwir wymon). Dyma blanhigion a fyddai'n rheibio pobl, pe baent yn cerdded arnynt liw nos. ’Roedd y gwellt hud yn tyfu mewn mannau gwlyb, a gellid ei adnabod gan ei fod, yn rhyfedd ddigon, ‘yn mynd yn erbyn y llanw’. Pan fyddai rhywun yn cerdded ar y planhigyn hwn, byddai’n colli ei ffordd: E Lannsaliou e vez kelc’hiet an dud, eno a zo kalz a c’hourc’heotennoù el lanneier gleb (Yn Lannsaliou caiff pobl eu rheibio, oherwydd yno mae llawer o’r gwellt hud ar y rhostir gwlyb.)

Mae’r gair ‘rheibio’ yn ein hatgoffa am allu dewiniaid ers llawer dydd a’u harfer o dynnu cylch, â ffon wen, o amgylch y sawl y dymunent ei hudo. Byddai’r sawl a gâi ei ddal fel hyn yn gweld tai mawr o’i amgylch a byddai’n methu cael hyd i’w ffordd. Yn ffodus, ’roedd modd go hawdd o ddod allan o drybini o’r fath: Evit bezañ digelc’hiet ne vez ken d’ober nemet lakaat ar godelloù war an tu-gin (I dorri hud ar ddyn nid oes angen ond iddo droi ei bocedi y tu chwithig allan). Tybed onid Llydawiaid a oedd wedi cael diferyn bach gormod i’w yfed a fyddai’n troedio ar y gwellt swyn, dynion a oedd am stori dda i’w hadrodd wrth eu gwragedd i egluro pam ’roeddent yn cyrraedd adref mor hwyr, a heb ddimai goch yn eu pocedi? Beth bynnag, gwyddai’r bobl ei bod yn well aros ar yr aelwyd, ac ymddifyrru yno, na mynd ar gerdded liw nos, oherwydd Al loar a vrev an dud pa bar warno en noz (Mae’r lleuad yn peri i ddyn wynegu pan fo’n tywynnu arno yn y nos.)

Caiff ofergoelion eraill sylw yng ngwaith Jules Gros. Mewn oes pan fyddai pobl yn byw gartref, gyda pherthnasau’n gofalu am y sawl a oedd yn dod i ben y dalar, ’roedd arwyddion angau yn ddigon cyfarwydd: Pa vez un den prest da vervel e vez gwelet kelc’h-ar-marv war e vizaj (Pan fo amser dyn wedi dod i farw gwelir cylch angau ar ei wyneb, h.y. golwg grablyd ar ei geg a’i drwyn.) Nid oedd pobl ychwaith yn hoffi gweld bedd agored ar y Sul, oherwydd y gred bod hynny’n golygu y byddai rhywun arall yn marw yn fuan wedyn.

Mae ffynhonnau niferus Llydaw yn ein hatgoffa bod yr Eglwys wedi mabwysiadu llawer o ffynonellau dŵr â chredoau paganaidd ynghlwm wrthynt. Nid oes angen mynd yn bell iawn i ddod o hyd i ofergoelion nad oes a wnelont ddim â Christionogaeth yn y traddodiadau hynny. I wybod a fyddai plentyn sâl yn gwella, er enghraifft, byddid yn taflu un o’i gynau (gwisg debyg i ffrog fach oedd gŵn plentyn bach) i mewn i ffynnon neilltuol. Pe bai’n suddo ’roedd yn argoel wael, ond Ma chom ar jakedenn war varr an dour e teuio ar bugel e-barzh. (Os erys y gŵn ar wyneb y dŵr bydd y plentyn yn dod ato ei hun). Mae ofergoel arall sy’n gysylltiedig â dŵr yn awgrymu bod ffordd neilltuol o wella oddi wrth drawiad tes: Pa vez tapet an heol e vez mat dour laeret eus teir feunteun er sav-heol (Pan fo dyn wedi cael ei daro gan yr haul, llesol yw cael dŵr a ladratawyd o dair ffynnon yn y Dwyrain.) Cynghorir yn erbyn mynd i ymofyn dŵr wedi i’r haul fachlud: N’eo ket mat mont da gerc’hat dour ar velc’hwedenn (Nid da mynd i nôl dŵr y falwen).

Gwelwyd bod ymddygiad anifeiliaid dof yn darogan sut dywydd a fyddai drannoeth. Priodolid galluoedd hud i ychydig o’r anifeiliaid hynny. Dyna gathod duon, er enghraifft: Ar c’hizhier du a vez lavaret e vezont kizhier an diaoul, hag a gac’h arc’hant (Maent yn dweud mai cathod y diafol yw’r rhai duon, a’u bod yn cachu arian.) ’Roedd cyswllt cathod â’r gŵr drwg yn amlwg, oblegid Ar c’hizhier a ra o sabad en ur park a dri c’horn (Mae cathod yn cynnal eu cyfarfodydd dewiniol mewn cae trionglog.)

’Roedd ofergoelion am gŵn du hefyd. Credai rhai, a hwythau’n Gristionogion da, fod modd i ddyn ddod yn ôl i’r ddaear, wedi iddo farw, ar ffurf anifail. Dyna a oedd wedi digwydd i ryw Yann neu’i gilydd: Ar c’hi du a veze gwelet eno diouzh an noz a oa Yann-Gozh oc’h ober e binijenn (Y ci du a oedd i’w weld yno liw nos oedd Yann-Gozh yn gwneud penyd.)

’Roedd ieir ymhlith anifeiliaid y tŷ. Ni châi’r rheini eu rhoi i ori ym mis Mehefin, fodd bynnag, oherwydd yn ôl yr ofergoel, byddai hynny’n peri iddynt droi a throi mewn cylch, hyd nes eu bod yn marw: E miz Even ne vez ket lakaet ar yer da c’horiñ, rak neuze e vezevennont (Ym mis Mehefin, ni chaiff yr ieir eu rhoi i ori, oherwydd wedyn bydd y bendro arnynt.) (Diau fod y cyswllt rhwng y bendro a mis Mehefin i’w briodoli, yn rhannol o leiaf, i debygrwydd y geiriau Llydaweg miz (Mezh)even ‘Mehefin’ a mezevenniñ/mizervenniñ/mezevelliñ ‘peri i’r pen droi, hala’r bendro ar rywun; rhoi o dan swyn’.) ’Roedd Mehefin yn effeithio ar bennau ieir ond hefyd ar bobl, ac yn yr enghraifft nesaf, hyd yn oed ar y môr: E miz Even e vezevenn ar mor hag e vez disuït: hiziv e treo kalz ha warc’hoazh ne dreo kazi tamm ebet. (Ym mis Mehefin mae’r bendro ar y môr a’r llanw’n afreolaidd: heddiw trai mawr, yfory nemor ddim trai.)

Mae diwylliant cefn gwlad wedi chwythu ei blwc bellach. Mwyach ni chaiff y teircall (Spiranthes spiralis) ei gasglu ym mis Medi i warchod y tŷ rhag taranfollt. Bellach ni chlywir pobl yn dweud Krog eo ar bik en he skouarn (Mae’r bioden wedi cydio yn ei chlust), pan sonnir am ferch sy’n awyddus i briodi. Os yw arferion a dywediadau’r unfed ganrif ar hugain yn wahanol i rai dechrau’r ugeinfed ganrif, nid oes amheuaeth nad yw gwaith Jules Gros yn dal yn ddifyr, ac yn unigryw. Drwyddo down i ddeall rhywfaint am ffordd yr hen Lydawiaid, rhai uniaith Lydaweg yn aml iawn, o feddwl.


Cyfieithiad (diwygiedig) RhH o ddarn gan Jacqueline Gibson, a gyhoeddwyd gyntaf yn Breizh-Llydaw, rhifyn 41 (Awst 2005), 22-24. Sylwer bod y dyfyniadau yn y cyfieithiad wedi cael eu rhoi yn orgraff zh. Ceir yr orgraff wreiddiol os edrychir ar y blog Llydaweg. Mae croesgyfeiriadau hefyd yn y fan honno.

No comments: