07/05/2009

Cwrs Haf Plouha

Mae manylion cwrs haf arall i ddysgwyr Llydaweg newydd ddod i law, sef un Plouha, pentref ar ffiniau'r fro Lydaweg draddodiadol (Breizh-Izel) yn y Gogledd. STAJ "EOST 2009" (Awst) yw hwn a chaiff ei gynnal yn yr ysgol gynradd (skol kentañ-derez) 3-8 Awst, 2009.

Bydd pedair lefel yn cael eu dysgu gan yr athrawon hyn: Sedrig Laur, Lan Tangi, Mari-Jo ar Rouz, Kolina Gohin a Tomaz Jacquet. Bydd hefyd gwrs drama gan Bob Simon. Bydd gweithgareddau amrywiol, darlithiau, teithiau cerdded, nosweithiau llawen a chanu.

Y pris yw 150 € yr wythnos(120 i'r di-waith, ha disgownt o 20 € i'r sawl a fu ar gwrs yno llynedd) + 25 Euro am bedwar cinio canol dydd yn yr ysgol.

Gellir gwneud cais drwy gysylltu â: www.kalon-plouha.bzh.bz neu drwy e-bost: kalon.plouha@wanadoo.fr, neu drwy ffonio 02.96.22.49.79.

Ceir manylion pellach ar: www.kalon-plouha.bzh.bz.

No comments: