29/04/2009

Dysgu Llydaweg - modiwl yr ail flwyddyn i fyfyrwyr allanol - Aberystwyth

Os ydych wedi dysgu tipyn o Lydaweg ond yn awyddus i wneud rhagor, bydd cwrs yr ail flwyddyn i fyfyrwyr allanol yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf gan Brifysgol Aberystwyth. Edrychir yn bennaf ar yr amser presennol arferiadol ( e vez, am bez ), y dyfodol ( e vo, am bo), yr amherffaith arferiadol (e veze, am beze), yr amherffaith ( e kanen, e kanes), a'r amodol (e vefen / e vijen, am befe/ e vijen), ond cyflwynir llawer o ymadroddion a gwybodaeth ddefnyddiol arall hefyd. Rhoddir pwyslais yn bennaf ar sgwrsio yn yr iaith.

Cynhelir cyfres o ysgolion undydd ar y Sadwrn, gosodir ymarferion ysgrifenedig yn rheolaidd, a gwneir defnydd helaeth o gyflwyniadau Powerpoint ac o Blackboard.
Mae'n ddigon posibl mai dyma'r tro olaf y caiff y modiwl hwn ei gynnig yn allanol gan fod cynllun y radd allanol yn graddol ddiwryn i ben, felly os ydych rhwng dau feddwl, manteisiwch ar y cyfle.

Cysyllter â rhh@aber.ac.uk am ragor o fanylion.

No comments: