29/04/2009

Ffliw'r Moch yn cyrraedd Gwlad y Basg

Cadarnhaodd Adran Iechyd Llywodraeth Gwlad y Basg fod dyn 30 oed o Bilbo (Bilbao), yn dioddef gan ffliw'r moch (29 /4/09). Dywedir nad yw ei gyflwr yn ddifrifol a'i fod yn cael ei drin mewn ystafell arbennig mewn ysbyty yn Barakaldo (Bizkaia). Daeth yn ôl yn ddiweddar o Fecsico ac aeth i gael cymorth meddygol ddydd Sadwrn. Dyma'r achos cyntaf yng Ngwlad y Basg.

http://www.berria.info/albisteak/33545/Bilboko_gizonezkoak_txerri_gripea_du.htm

No comments: