28/04/2009

Yr Heddlu'n Barod â'u Pastynau

Ddydd Sadwrn, 25 Ebrill, trefnwyd gwrthdystiad yn Naoned (Nantes) yn erbyn gormes gymdeithasol yn Ffrainc. Bu 400 o bobl yn gorymdeithio, gan gynnwys aelodau o 44=Breizh, grŵp sy’n galw am gynnwys De-Orllewin Llydaw o fewn ardal weinyddol ‘Bretagne’.

Tua 5 y prynhawn, torrwyd ffenestri gan rai o’r gorymdeithwyr a phenderfynodd rhai adael y brotest y pryd hynny. Er nad aed â neb i’r ddalfa am falu’r ffenestri, tuag awr wedyn, pan oedd rhyw 20 o wrthdystwyr 44=Breizh wedi ymgasglu y tu allan i dafarn, dyma’r heddlu’n eu hamgylchynu a’u gorfodi i ddangos eu dogfennau swyddogol. Pan wrthododd rhai, ymosodwyd arnynt a’u bwrw â phastynau. Bu’n rhaid mynd ag un, a oedd yn ceisio amddiffyn plentyn, meddir, i’r ysbyty, ag anafiadau i’w ben.

Cadwyd dau o bobl yn y ddalfa am 16 o oriau a bydd yn rhaid iddynt ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o anufudd-dod sifil.

http://44breizh.wordpress.com/
http://bremaik.free.fr/



Mae ymgyrch i ailuno Llydaw fel uned weinyddol ers y 70au. Dyma lun o orymdaith drwy strydoedd Naoned yn ôl yn Ebrill 1976.

No comments: