28/04/2009

Gwarantu hawliau ieithyddol

Yn 2007, yn Euskadi (Euskal Autonomia Erkidegoko), sef Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, gan Is-bwyllgor Polisïau Iaith Adran Diwylliant y Llywodraeth, sefydlwyd Elebide (Ffordd dwy iaith), sef gwasanaeth i sicrhau hawliau ieithyddol.

Cynnal, sefydlogi a gwarantu hawliau ieithyddol yw nod Elebide, ac ateb y gwahanol broblemau sydd yn codi yn y maes hwnnw. Amcan arall yw rhoi cyhoeddusrwydd i hawliau ieithyddol, a dangos i bawb fod croeso iddynt i gwyno os teimlant fod eu hiaith yn cael cam. Mae modd ffonio llinell gymorth neu gysylltu ag Elebide drwy eu gwefan. Sylweddolodd y Basgiaid, o leiaf, nad drwy annog pobl i fodloni i’r drefn y mae symud ymlaen i normaleiddio iaith nad yw’n iaith gwladwriaeth.

Mae dyfarnwyr Elebide yn astudio cwynion ac awgrymiadau yn fanwl ac yn ymchwilio i weld a oes angen mynd ymhellach i unioni cam, neu beidio.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, a gyhoeddwyd yn Chwefror 2009, yn 2008 ymdriniodd Elebide â 25% yn fwy o achosion nag yn 2007. Derbyniwyd 305 allan o’r 310 o’r cwynion / awgrymiadau a gafwyd. Cwynion, yn hytrach nag awgrymiadau neu ymgynghori, oedd 89% o’r achosion, ac yn ymwneud â’r sector gyhoeddus ’roedd y rhan fwyaf ohonynt. ’Roedd 97% o’r cwynion yn ymwneud â hawliau’r Fasgeg a 3% yn unig â hawliau’r Sbaeneg. Mae 77% o’r problemau wedi cael eu datrys, meddir, a’r gweddill yn y broses o gael eu trin.


Ffynhonnell: Berripapera (2009ko martxoa) Llun: Gernikako Batzar-Etxea / Nenfwd Neuadd y Cynullliad - Gernika

No comments: