26/04/2009

Mae f’un i’n fwy na d’un di...

Yn aml, gofynnir p’un sydd fwyaf, Cymru ynteu Llydaw?

Dyma ychydig ffigurau sy’n ateb y cwestiwn hwnnw, ac ambell gwestiwn tebyg.

Cyfeirir yma at Lydaw draddodiadol, hynny yw cynhwyswyd yr ardal dde-ddwyreinol, lle y mae Naoned (Nantes), dinas fwyaf Llydaw, er nad yw’r ardal honno’n rhan o’r rhanbarth gweinyddol a elwir ‘Bretagne’ gan lywodraeth Ffrainc.

Nid astudiaeth wyddonol yw hon, ond mae'r ffigurau i gyd yn rhai a amcangyfrifwyd yn ystod y cyfnod 2001-2008.

Tiriogaeth

Llydaw 34,023 km² / Cymru 20,768 km2

Poblogaeth

Llydaw 4,365,500 / Cymru 2,903,085

Poblogaeth y brifddinas

Caerdydd 305,353 / Roazhon 2006: 209,613

(Mae poblogaeth Naoned yn 282 853)



llun: adeiladau mawr y adlewyrchu adeiladau mawr eraill yn nghanol Roazhon... ond mae poblogaeth dinas Roazhon, â'i phrifysgol anferth a'i metro wltramodern, yn llai na phoblogaeth Caerdydd.

Siaradwyr yr iaith Geltaidd

Cymraeg 582,368 / Llydaweg 200,000

(Rhaid dweud bod y ffigur am y Llydaweg yn anfanwl iawn, a bod yr un am y Gymraeg yn cynnwys 'siaradwyr' nad oes ganddynt ond crap elfennol ar yr iaith ac nad ydynt yn ei defnyddio.)

Yr afon hwyaf (=hiraf)

Gwilen (Vilaine) 230 km / Tywi 102 km

Y copa uchaf


Yr Wyddfa 1085m / Ar Roc’h Ruz 385m (nid nepell o Plouneour-Menez)

No comments: