23/02/2015

Trafodaethau Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Llydaw 2015

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymru-Llydaw ddydd Sadwrn, 21 Chwefror 2015 ym Morlan, Aberystwyth. Adroddwyd bod sefyllfa gyllidol y Gymdeithas yn iach. Penderfynnwyd na fydd stondin yn yr Eisteddfod eleni ond cynhelir un y flwyddyn nesaf. Trafodwyd trefniadau ar gyfer penwythnos i ddysgwyr Llydaweg yn yr hydref. Etholwyd Talat Chaudhri fel Cadeirydd ond erys y swyddogion eraill heb newid arall.

No comments: