Wedi cyfnod byr o salwch, bu farw
Dewi Morris Jones. Bu Dewi’n gweithio am flynyddoedd yn Mhrifysgol Aberystwyth fel
tiwtor Llydaweg rhan amser yn Adran y Gymraeg.
Yn enedigol o’r Hendy-gwyn
ar Daf, daeth yn rhugl yn y Ffrangeg ac yn y Llydaweg tra oedd yn byw ym Mrest
am naw mlynedd. ’Roedd wedi astudio gwaith y
cenhadon a aeth, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o Gymru i Lydaw i geisio
troi’r bobl yno yn Brotestaniaid.
Cyn ymddeol, gweithiai Dewi fel Pennaeth
Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau. Cofir
amdano fel gŵr tawel a diymhongar a hefyd fel un o’r tîm a greodd y fersiwn
Cymraeg o Scrabble. ’Roedd yn
weithgar hefyd gyda Phlaid Cymru. Canai gyda Chôr Meibion Caron ac fe’i derbyniwyd
i’r Orsedd yn 2008.
’Roedd ei gartref ym Mronnant. Cydymdeimlwn
â Sandra, ei wraig, ac â’u dwy ferch.
No comments:
Post a Comment