05/02/2015

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Llydaw 2015



Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Llydaw ym Morlan, Aberystwyth, ddydd Sadwrn, 21 Chwefror rhwng 2pm a 4pm. Mae croeso i unrhyw aelod i fynychu’r cyfarfod, ond byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn rhoi gwybod eich bod yn dod ( rhh@aber.ac.uk) am mai ystafell fechan, sydd yn dal 10 o bobl, a logwyd. 

Bydd yn gyfle i ethol swyddogion, ac i drafod gweithgareddau a dyfodol y gymdeithas. Bydd angen sôn am yr Eisteddfod, wrth gwrs, ac am y penwythnos i ddysgwyr y bwriadwn ei gynnal yn yr hydref.

No comments: