07/01/2012

O wawd a phoer cwyd ei phen

Ym mis Hydref 2011, cododd nifer y disgyblion mewn ysgolion Llydaweg i dros 14,000. ’Roedd bron 600 yn ysgolion dwyieithog y wladwriaeth a thros 3,500 yn ysgolion Llydaweg Diwan. Gwelwyd y ffyniant mwyaf yn ne-ddwyrain pellaf y wlad, sef yn Liger-Atlantel (Loire-Atlantique), lle y bu cynnydd o 11.8%.

Tybed a fydd modd cyrraedd 15,000 o ddisgyblion yn 2012? Mae’r niferoedd yn fach o’u cymharu â’r rhai yma yng Nghymru, ond rhaid cofio nad oedd dim Llydaweg swyddogol yn yr ysgolion cyn y 70au a bod y cof am yr arwyddion yn yr ysgolion yn rhybuddio’r disgyblion rhag ‘poeri ar y llawr a siarad Llydaweg’ yn dal yn fyw iawn yn y cof y pryd hynny.

No comments: