07/01/2012

Ar y wasg y daeth gwasgu

Wedi mwy na 42 o flynyddoedd rhoddwyd y gorau i gyhoeddi’r cylchgrawn Llydewig nodedig Armor Magazine. Gyda’r 500fed rhifyn penderfynodd y criw y tu ôl iddo ei bod yn bryd rhoi’r ffidl yn y to.

Yn ôl y prif olygydd, Anne-Edith Polivet, cafwyd gormod o anawsterau yn ddiweddar, yn bennaf am fod gwerthiant cylchgronau, yn gyffredinol, yn disgyn, wrth i’r Rhyngrwyd gystadlu mwyfwy â’r gair printiedig, ond hefyd am fod yr argyfwng ariannol yn pwyso’n drymach, drymach ar bawb. Cododd problemau hefyd am i lifogydd effeithio ar swyddfeydd y cylchgrawn yn Lambaol. Yn hytrach na gadael i’r hwch fynd drwy’r siop, am fod cyllid gan hysbysebwyr a chan danysgrifwyr yn rhy isel, penderfynwyd mai’r peth doethaf fyddai dirwyn y cyhoeddiad i ben.

llun: http://www.pariarevolution.com/images/armor_magazine.jpg

No comments: