07/01/2012

Cyhoeddusrwydd a llwyddiant

Yn 2010-11, wedi ymgyrch cyhoeddusrwydd effeithiol, llwyddwyd i ddenu mwy o oedolion i ddechrau dysgu Llydaweg mewn dosbarthiadau nos a rhai dydd. Bu cynnydd o 8.5% yn nifer y dechreuwyr, h.y. ’roedd bron 5000 o ddysgwyr drwy Lydaw i gyd. Ym mis Hydref 2011 gwnaed ymdrech eto i dynnu sylw at y modd y gall pobl gymryd y cam cyntaf tuag at ddysgu’r iaith. Anfonwyd 9,000 o bosteri, rhai o faint addas i safleoedd bysiau, a 15,000 o daflenni, i 237 o gymunedau.

No comments: