07/01/2012

Colli’r cain benllieiniau

Bigoudenn by finofilka
Bigoudenn, a photo by finofilka on Flickr.

A oes Llydawesau sy’n dal i wisgo gwisg Lydewig o ddydd i ddydd neu a aeth yn gwbl ffocloraidd, fel yr awgrymir gan y mae’r modd y defnyddir cymeriadau cartŵn sy’n gwisgo penllieiniau tal y Vro Vigoudenn (yn ne-orllewin Llydaw)? Gwelir rhai felly’n bur aml ar lynion ac ar galendrau Llydewig.

Pan ymwelwn i â Llydaw yn y saithdegau ac ar ddechrau’r wythdegau, ’roedd penllieiniau’n dal i’w gweld ambell dro ar bennau hen wragedd. Cofiaf un felly’n croesi’r ffordd yn Korle (Corlay), er enghraifft, wrth imi yrru drwodd ac ’roedd llawer mwy yn y Vro Vigoudenn. Heb os, erbyn hyn, mae’r penllieiniau gwyn a’r dillad duon a oedd yn arfer bod mor gyffredin mewn llawer o fannau yn Llydaw bron â darfod o’r tir, ac yn aros fel gwisgoedd ar gyfer gwyliau arbennig, bron mor ddifywyd â’r bais a betgwn yma yng Nghymru.

Eto i gyd, mae ambell un o’r Bigoudenned (gwragedd y Vro Vigoudenn) yn cadw’r traddodiad yn fyw. Yn 2011, dathlodd un o’r rheini, sef Maria Lambour, ben ei blwydd yn gant oed. Cafodd yr achlysur lawer iawn o sylw gan y cyfryngau, a hithau’n cael ei darlunio, i raddau o leiaf, fel arwydd o ddiwylliant ar ddiflannu. Onid yw diwylliant gweledol yn gwir ddal dychymyg pobl sydd wedi colli diwylliant ieithyddol?

No comments: