10/01/2012

Marw Annaig Renault


Ar 8 Ionawr, 2012, bu farw’r awdures Lydaweg Annaig Renault. Fe’i ganwyd yn 1946 yn Neuilly-sur-Seine, i Lydawyr a oedd wedi symud yno i fyw. Ym Mharis dysgodd Lydaweg mewn dosbarthiadau a symudodd i Lydaw i fyw yn 1967.

Annaig Renault oedd un o’r ychydig ferched a ysgrifennai gerddi yn Llydaweg, a chyfieithwyd i’r Gymraeg ddwy o’i storïau byrion Llydaweg a darn byr o dyddiadur taith dwyieithog, yn sôn am ymweld â Blaenau Ffestiniog, a’u cyhoeddi yn Taliesin.

Yn 1995 daeth ei nofel, Dec'h e oa re bell dija, o’r wasg a daeth yn wyneb cyfarwydd i lawer o Gymry yn ystod y blynyddoedd y bu Skol-Uhel ar Vro yn rhannu stondin eisteddfodol gyda Chymdeithas Cymru-Llydaw. Gan fod amryw o bobl wedi clywed amdani drwy Taliesin neu drwy ddosbarthiadau Llydaweg ym Mhrifysgol Aberystwyth, tra oedd yn yr Eisteddfod ’roedd wedi clywed sawl tro : ‘A ! Chi yw’r awdures Lydaweg !’, rhywbeth rhyfeddol, meddai wrthyf unwaith, am na fyddai byth yn cwrdd â dieithriaid a oedd wedi clywed am ei gweithiau ysgrifenedig yn unman arall!

Yn 2002, o dan gyfarwyddyd Yann-Bêr Piriou, cwblhaodd ddoethuriaeth, yn Ffrangeg, ar waith y bardd Llydaweg Maodez Glanndour, sef Le chemin d’humanité chez Maodez Glanndour (l’abbé Le Floc’h 1909-1986).

Ymhlith ei chyhoeddiadau mae Barzhonegoù (cerddi 1985), Planedennoù (straeon byrion 1989), Dec’h’zo re bell dija (nofel, 1996), Prof Nedeleg Lommig (stori i blant, 1999), a Carnet de voyage, (dyddiadur taith dwyieithog, 2004).

No comments: