07/09/2011

Lansio llyfr am Lydawr yn Aberystwyth - dydd Gwener, 16 Medi, 2011




Ar ddydd Gwener, 16 Medi,am 6.30 p.m bydd y llyfr 'La Maison in Connemara: The History of a Breton' yn cael ei lansio. Dyma gofiant Yann Fouéré, ymgyrchydd gwleidyddol Llydewig, ymgyrchydd iaith ac awdur.

Bu Yann Fouéré yn olygydd ar ddau bapur Llydaweg yn ystod ei yrfa hir, ac roedd yn un o’r rhai a ffurfiodd yr Undeb Celtaidd ym 1961. Daeth i Gymru ac i Iwerddon i fyw wedi'r Ail Ryfel Byd,ond dychwelodd i Lydaw wedyn.

Bydd Llywydd presennol y Llyfrgell Genedlaethol, sef Y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, yn llywyddu'r noson.

Cynhelir derbyniad gwin a sudd oren.

Mynediad am ddim drwy docyn.

No comments: