07/09/2011

A oeddech yn adnabod Per Denez?


Os cwrddoch chi â'r llenor, yr ysgolhaig a'r ymgyrchydd iaith Per Denez, neu os oes gennych ddiddordeb arbennig yn ei waith, efallai yr hoffech ysgrifennu pwt amdano ar gyfer rhifyn coffa o'r cylchgrawn Al Lanv. Dyma'r gwahoddiad:

"Rydym yn paratoi’r rhifyn nesaf o Al Lanv a rhoddir y rhan fwyaf ohono i gofio Per Denez. Cylchgrawn chwarterol a sefydlwyd yn 1980 yw Al Lanv ac mae’n trafod gwleidyddiaeth, diwylliant a llenyddiaeth. Roedd Per Denez yn cyfrannu iddo’n rheolaidd, ac yn ysgrifennu am Gymru ac am Gymry adnabyddus. Os oeddech chi'n ei adnabod, byddem yn falch iawn pe baech yn anfon atom ddarn bach amdano (hyd at 1000 o eiriau). Chi biau penderfynu natur y darn (atgofion, lluniau, englyn, cerdd…) a chewch ysgrifennu yn Gymraeg neu yn Llydaweg. A wnewch fod mor garedig ag anfon eich cyfraniad fel y bydd yn ein cyrraedd cyn diwedd mis Medi?"

Gobeithio y ceir ymateb da gan fod Per Denez wedi ymddiddori cymaint yng Nghymru ac yn y Gymraeg.

No comments: