Mae Skol Ober yn cynnig gwersi Llydaweg drwy lythyr neu drwy e-bost , ffordd o ddysgu sy'n caniatáu ichi fynd mor gyflym neu mor araf ag y dymunwch. Mae'r gost yn rhesymol iawn a gellir cofrestru ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae'r gwersi'n addas i bob oed, i'r rhai sydd am ddysgu Llydaweg ac i'r rhai sydd am ei hailddysgu neu sydd yn awyddus i roi sglein ar eu hiaith.
Am fanylion pellach, cysylltwch â swyddfa Skol Ober, neu edrychwch ar eu gwefan:
SKOL OBER
14 straed Louzaouenn-an-Hañv
14 rue du Muguet
22300 LANNUON
pgz: 02.96.48.03.00
skolober@brezhoneg.org
http://www.skolober.com/
No comments:
Post a Comment