30/07/2011

Bu farw Pêr Denez, Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Llydaw

Ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf, 2011, bu farw Pêr Denez (Pierre Denis) - ieithydd, geiriadurwr, llenor ac ymgyrchydd dros y Llydaweg. Bu am gyfnod yn bennaeth Adran y Llydaweg a’r Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Roazhon, a dyfarnwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu hefyd yn llywydd Cyngor Diwylliannol Llydaw.

Fe’i ganwyd ar 3 Chwefror, 1921, yn Roazhon / Rennes. Yn 1981 fe gafodd ganiatâd i sefydlu gradd brifysgol yn y Llydaweg.

No comments: