23/09/2011

Araith Havard Gregory wrth Lansio Llyfr Yann Fouéré (cyfieithiad)







Barchus Lywydd, Annwyl Gyfeillion,



Anrhydedd mawr yw sefyll yma heddiw a chael fy nghysylltu ag enw un o Lydawiaid mwyaf yr ugeinfed ganrif.Hoffwn fynd â chi’n ôl i’r awyrgylch tra ansefydlog a brofodd Yann Fouéré, a llawer tebyg iddo, wedi’r Rhyfel, 65 o flynyddoedd yn ôl – am fy mod innau yno, yn y cyfnod cythryblus hwnnw wedi 1945. Yr union adeg honno, ym 1946, y dechreuais ddysgu Saesneg yn Dinan, a minnau’n un ar hugain oed. Estynnwyd y flwyddyn ac aeth yn ddwy. Wedyn aeth fy mlwyddyn nesaf ym Mhrifysgol Roazhon (Rennes) yn ddwy, a dyna fi felly am bedair blynedd yn Llydaw, cyn gorfod dychwelyd i Gymru i chwilio am swydd barhaol - tipyn o record i Gymro ar y pryd!



Yn Llydaw, blynyddoedd cythryblus oedd y rhain, ac fel Cymro ar ei ben ei hun yno cefais gyswllt ag amryw Lydawiaid gwlatgar a rhai nad oeddent mor ffyddlon i Lydaw hefyd. ’Roedd rhai, fel yr arlunydd a’r awdur Xavier de Langlais (Zavier Langleiz) a’r brocer llongau Pierre Mocaër (a oedd wedi dysgu Cymraeg), wedi ymddwyn yn wyliadwrus yn ystod meddiannaeth y Natsïaid, tra oedd eraill, fel Taldir, er enghraifft, pennaeth Gorsedd Llydaw, wedi bod yn agored ddiofal. Bu i eraill droi eu cefn ar eu hen gyfeillion yn y mudiad Llydewig pan ddaeth y Rhyfel i ben. Dyna, er enghraifft, a wnaeth Fañch Gourvil, ysgolhaig a fu am rai misoedd yn dysgu Cymraeg ym Mlaenau Ffestiniog ac a oedd yn hyddysg iawn yn hanes a llenyddiaeth Llydaw. ’Roedd Xavier de Langlais yn cadw ei deulu’n heini drwy fyw ar bumed llawr adeilad a oedd yn edrych dros stryd brysur yn Roazhon, a lle nad oedd dim lifft! Un o ffrindiau mwyaf ffyddlon Yann Fouéré ydoedd, a daw hynny’n glir wrth ddarllen gwaith Yann.



Dros fy Mhasg cyntaf yn Llydaw, ym 1947, o ganlyniad i’r holl feirniadu a fu ar Ffrainc yn y wasg yng Nghymru, dyma Lysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain yn gwahodd dirprwyaeth go ddylanwadol o bwysigion Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i ymgymryd, yn ddilestair, â’u hymchwiliad eu hunain i’r cyhuddiadau a oedd yn wynebu llawer o Lydawiaid gwladgarol o frad ac o ochri gyda’r meddianwyr Natsïaidd. Hoelion wyth go-iawn oedd y rhain, gan fod wyth ohonynt yn y ddirprwyaeth! Cefais i fy ngwahodd gan Ddeon Prifysgol Roazhon i fynd gyda hwy ar eu taith o amgylch Llydaw. Fel y digwyddodd, siwrnai ddigon anghyfforddus oedd hi mewn bws bach 12 sedd, a minnau’n eistedd yn agos i W J Gruffydd, arweinydd y ddirprwyaeth. Yn gyfleus iawn, ’roedd ef wedi cael ei anrhydeddu â D Litt gan Brifysgol Roazhon a phrin y gallai ddangos ei awdurdod fel arweinydd y grŵp drwy rwystro rhyw lanc o athro rhag mynd gydag ef a Dyfnallt, a Cynan, a D. R. Hughes, a’r Canon Maurice Jones, a Chrwys, a’r Athro Morgan Watkin, ac W. Emyr Williams. A dyfynnu’r ymadrodd cysegredig, ’roedd y cwbl “aux frais de Marianne”, ar draul llywodraeth Ffrainc, a chawsom y llety gorau ble bynnag yr aem. ’Roedd adroddiad y ddirprwyaeth, a gyflwynwyd yn y modd priodol i Lysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain, yn unfryd unfarn ac yn feirniadol iawn o’r driniaeth arw a gawsai llawer o Lydawiaid cwbl ddieuog.



Cafodd yr adroddiad sylw helaeth yn y wasg ac ni fu heb ddylanwad mewn mannau uchel! Buasai Dewi Watkin Powell (y Barnwr Dewi yn ddiweddarach) yn Llydaw ychydig fisoedd cyn imi gyrraedd yn Hydref 1946, yn dadlau, ar ran “Y Faner”, fod yr ysgolhaig a’r awdur Llydaweg Roparz Hemon yn ddieuog. ’Roedd Dewi wedi cael ei dargedu gan bennaeth swyddfa gudd llywodraeth Ffrainc yn Roazhon, Monsieur Le Nan, a’i wahodd i ginio. Ysgrifennodd Dewi am ei ymweliad yn “Y Faner” a bu cryn ddarllen ar ei ysgrif.’Roedd Llydawiaid dieuog yn cael eu carcharu ar sail cyhuddiadau gau – dyna adeg pan oedd ymddygiad o’r fath yn ffynnu, yn aml ar sail hen elyniaeth a heb fod yn berthnasol i gydweithio â’r grymoedd Natsiaid a oedd wedi meddiannu’r wlad. Treuliodd Yann flwyddyn mewn nifer o garchardai.



Darganfûm innau fod f’enw wedi ei gofnodi mewn inc trwm ar restr yr heddlu cudd o’r rhai a oedd wedi eu drwgdybio drwy gydol y pedair blynedd y bûm yno.Syndod y byd! Dyma finnau hefyd, yn fy nhro, yn cael gwahoddiad caredig i ginio gan yr un Monsieur Le Nan a oedd wedi ceisio cornelu Dewi, dim ond i’w chael yn dost ganddo! Dyn bach holgar oedd Le Nan, a’i unig amcan am y ddwy awr nesaf oedd cael gwybod beth a wyddwn a beth y gallwn ei ddatgelu – am eraill ac amdanaf fy hun. ’Roedd angen imi baffio’n ofalus. Ni ddywedais ddim wrtho fy mod wedi mynd yn groes i system gyfreithiol Ffrainc drwy ennill ffafr swyddogion y tollau yn Sant-Maloù (St. Malo) wrth fynd yn ôl i gael gwyliau yng Nghymru, a threfnu gyda hwy y byddwn i wrth ddychwelyd o Gymru y tro wedyn yn dod â llawer o “cigarettes anglaises” ynghyd â chwe phibgod newydd sbon o’r Alban, y trefnwyd yn hwylus iddynt fynd trwy’r doll yn ddidrafferth, ac oddi yno i feddiant diogel Polig Montjarret a mudiad adfywio’r binioù Llydewig. Efallai na fyddai wedi hidio am ryw fanion felly. Pysgota am rywbeth mwy yr oedd ef. ’Roedd y bwyd yn amheuthun, ac erbyn hynny ’roeddwn wedi dysgu sawru’r gagendor mawr rhwng y plonc rhad o Algeria a gaem gyda phrydau bwyd yr ysgol a’r claret gorau yn seler werthfawr y Prifathro, a oedd yn “extra”, ac arfer y gair cymysgryw hwnnw yr oeddwn wedi dod mor gyfarwydd ag ef. Fy mod wedi mwynhau’r pryd o fwyd oedd yr unig gyfaddefiad a wnes iddo! Ni wnaeth fy ngwahodd byth wedyn!



’Roeddwn wedi dod i adnabod amryw Lydawiaid a oedd wedi dal yn gadarn ffyddlon i Lydaw a’i hiaith, fel Yann a’r rhai a fu gydag ef yn gyd-sylfaenwyr Ar Brezhoneg er Skol, mudiad a alwai am gyflwyno’r Llydaweg i’r ysgolion. Buaswn yn eu cartrefi a hwythau wedi gofyn imi annerch grwpiau mwy o faint a sôn am Gymru. ’Roeddwn wedi dod yn “celeb”... ond tybed a fyddai rhai o’m llythyrau arferol at fy rhieni yn cael eu hatal? Dyfeisiais fy nghod cyfrinachol fy hun pan oeddwn am ddweud rhywbeth mentrus wrth ysgrifennu adref. Gallai fy rhieni a’m chwiorydd ddehongli fy llythyrau am eu bod wedi cael fy manylion torri cod, ac felly deuent i wybod rhai pethau a oedd yn digwydd.



Des i adnabod Xavier de Langlais yn dda, ac efe a soniodd gyntaf wrthyf am Yann ac am ei waith aruthrol dros y Llydaweg yn ystod cyfnod y feddiannaeth a chyn hynny, gan gynnwys sefydlu Ar Brezhoneg er Skol. Pan ddywedais wrtho y byddwn yn mynd yn ôl i Gymru dros y Nadolig, ymddiriedodd ynof lythyr arbennig iawn i Gymru, wedi ei gyfeirio at Dr Moger, ac yr oeddwn i’w roi i’r Athro Morgan Watkin. Yann Fouéré, wrth gwrs, oedd Dr Moger, a dyna oedd enw morwynol ei wraig ond wedi ei sillafu mewn ffordd wahanol! ’Roedd Yann wedi dechrau byw, o dan ffugenw, yng nghartref Gwynfor Evans. Dyma fi, felly, yn rhoi i’r Athro Morgan Watkin y llythyr gwerthfawr oddi wrth deulu Yann. Drwy drugaredd, bu modd iddynt ymuno ag ef yn ddiweddarach.



Oddi ar yr adeg gythryblus a chynhyrfus honno yr oeddwn i fel pe bawn wedi cael fy ngollwng i’w chanol yn fuan wedi’r Rhyfel, mae rhai o’r bobl y des i’w hadnabod yn Llydaw wedi tyneru ac wedi dod i barchu Yann yn fawr am ei gyfraniad i hunan-barch ei gyd-Lydawiaid, rhai y bu’n rhaid iddynt bob amser ymdrechu i gael eu cydnabod yn sgil y cysyniad o Egalité a gyhoeddwyd ym 1789.



Bu’n rhaid imi aros am lawer o flynyddoedd cyn cwrdd ag Yann yn Llydaw – nid oedd yn hawdd mynd ar ei drywydd! Ar 11 Hydref, 1993, pan oedd Rhiannon a minnau ar un o’n hymweliadau rheolaidd â’r wlad, gwnaethom lwyddo i ddal Yann yn ei gartref yn Evran, 4 neu 5 milltir o Dinan, sef hen gartref y teulu “Le bas Breil”. Cawsom dreulio llawer o oriau gwerthfawr yn ei gwmni. Rhoddodd inni ddau lyfr, gan gynnwys “La Maison du Connemara”, y llyfr y lansir y cyfieithiad Saesneg ohono heno gan ei ferch Rozenn.



Drwy e-bost, mae Rozenn a mnnau’n gohebu â’n gilydd ers sawl blwyddyn, ond yr unig lun a welsom ohoni cyn heno oedd un ohoni’n ferch dair blwydd oed gyda’i rhieni!Hoffwn ddiolch i Rozenn a’i llongyfarch ar sefydlu gwefan ardderchog Fondation Yann Fouéré ar y rhyngrwyd. Mae’r wefan yn llawn lluniau a gwybodaeth, ac yn cynnwys holl benodau’r llyfr sydd yn cael ei lansio heno. Gobeithiaf, er hynny, y byddwch yn mynd â chopi printiedig gyda chi yn y man. Cofiwch edrych ar y wefan yn fuan a darganfod y cyfoeth o ddogfennau a manylion a gasglwyd ynghyd gan Rozenn. Mae’n anrhydedd imi sefyll yma a sôn am un o’r gwŷr mwyaf rhagorol y cefais y fraint o’u hadnabod ac i wybod amdano, Yann Fouéré, gŵr sydd wedi cysegru ei fywyd i hawliau chwaer-genedl mewn perygl, cenedl, y mae’n drist dweud, nad oes ganddi o hyd ei llyfrgell genedlaethol ei hun.

No comments: