04/05/2010

Y Ddawns Angau ym Mro-Oueloù (Pays de Goélo) - gan Owen Legg

Mewn rhan goediog, ddu o bentref bach yn Llydaw, ymhell oddi wrth yr ymwelwyr, mae gem i’w darganfod, tlws o fyd yr Oesoedd Canol, sef eglwys Kervaria-an-Iskuit (Kermaria an Isquit), sydd yn chwe chant oed. Yno, ryw ddeg cilometr o Plouha, ym mhen mwyaf dwyreiniol yr ardal lle y mae traddodiad di-dor o siarad Llydaweg, mae ffresgo, a baentiwyd tua 1550. Mae’n dangos pobl o wahanol alwedigaethau – esgob, amaethwr a brenin... a phawb yn dawnsio â chelain. Law yn llaw, dawnsiant o amgylch yr eglwys. Gynt ceid hefyd eiriau Ffrangeg yno, darnau i’w canu, ond bellach maent yn anodd eu gweld.

Darganfuwyd y ffresgo yn 1856, gan Charles de Taillaut. Dywedir, fel arfer, mai ‘sydd yn ein cynorthwyo / sydd yn ein hachub rhag argyfwng’ yw ystyr iskuit. Ceir y gair yscuit mewn Llydaweg Canol, a ‘cyflym, buan’ yw ei ystyr. Mae’r gair hefyd i’w gael yn yr iaith heddiw ac yn Gymraeg mae gennym esgud, neu sgut mewn rhannau o Wynedd. Daw Mair i gynorthwyo heb oedi, felly. Posibilrwydd arall yw bod yma gyfeiriad at hesg.

Heblaw am y ffresgo, mae hefyd gasgliad o gerfluniau sydd yn werth ei weld. Cymeriadau o’r Testament Newydd yw’r rhain, ac maent yn dyddio o’r un cyfnod â’r ffresgo. Fe’i ceir yng nghyntedd yr eglwys, a’r paent gwreiddiol yn dal arnynt. Gwaetha’r modd, am nad yw’r eglwys yn cael ei gwarchod yn dda, lladratawyd y cerflun o Sant Ioan.

Dechreuais argraffu llyfr Ffrangeg a Saesneg ar thema’r Ddawns Angau. Ar frig y tudalen ceir torlun leino o’r ffresgo ac ar y gwaelod mae dehongliad modern o’r thema, hynny yw pêl-droedwyr yn dawnsio gydag ysgerbydau.


http://www.woodcraftpress.co.uk/

(D.S. Ceir gwell copi o'r ddau lun hyn ar y wefan)

woodcraft.tn@virgin.net

(Cyhoeddwyd y darn hwn gyntaf yn Breizh / Llydaw, Rhifyn 50 – Chwefror 2009)

No comments: