28/04/2010

Offeiriad yn dysgu inni sut i alw ar y Diafol!

Ar ddydd Mawrth, 27 Ebrill, cawsom gyfle yn Aberystwyth i wrando ar Yann Talbot yn siarad am ‘Y Diafol, Dewiniaid a Dewinesau yn Llydaw.’

Gall fod yn anodd denu pobl i ddod i wrando ar ddarlithiau ar ddiwedd y dydd, gan fod rhai wedi blino’n lân ac eraill yn gweithio - yn dysgu dosbarthiadau nos, er enghraifft. Mae eraill wedyn sydd yn byw y tu allan i’r dref ac yn ei chael yn rhy anodd teithio’n ôl. Er gwaethaf hynny oll, daeth deg ynghyd i wrando ar ddarltih Yann, sef Nona Evans, David Greaney, Gemma Dann, Jonathon Perry, Matthew Spikes, Rhisiart Hincks, Robin Spey (a ddaeth yn unswydd yr holl ffordd o Danygrisiau), Peggy Le Bihan (a fydd yn dychwelyd i Lydaw i fyw ddiwedd yr wythnos hon), Sioned Hughes ha Kevin Price. (Neb, ar wahân i Nona, wedi dysgu’r Gymraeg gartref!)

Cawsom ddarlith ddifyr iawn a chewch ei blasu ar YouTube:

http://www.youtube.com/watch?v=XLxpILaijCQ

No comments: