28/04/2010

Cymry yn ras fawr y Llydawiaid

llun gan Ikertxok: http://www.flickr.com/photos/25470610@N08/2465246319/

Bydd pedwar o Gymru’n cymryd rhan yn AR REDADEG, y ras fawr drwy Lydaw a gynhelir y mis nesaf i godi arian i fudiadau sydd yn hyrwyddo’r Llydaweg. Yn enw Cymdeithas Cymru-Llydaw bydd Siôn Jobbins a Gareth Popkins yn rhedeg. Kevin Davies sydd yn rhedeg ar ran Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac Alun Owens yn cynrychioli Urdd Gobaith Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, pan gynhaliwyd y ras gyntaf, Cymdeithas Cymru-Llydaw oedd yr unig fudiad Cymreig a gymerodd ran, a da o beth yw gweld mudiadau eraill yn dangos diddordeb y tro hwn. Pwy a ŵyr, efallai y caiff sylw yn y prif gyfryngau Cymraeg hyd yn oed?

Bydd gwahanol redwyr yn cymryd troeon i wneud y 1,200 o gilometrau, gan gychwyn yn Roazhon (Rennes), prifddinas Llydaw, ar 10 Mai, ac yn gorffen yn Pondi (Pontivy) ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Dyma achlysur sydd yn helpu i uno’r Llydawiaid y tu ôl i’r Llydaweg. Caiff yr elw ei rannu rhwng Diwan a chyrff eraill sydd yn gweithio er lles yr iaith.

No comments: