27/04/2010

Llydawiaid yn cofio Damwain Chernobyl 24 mlynedd yn ôl

Stori’r wythnos yn y cylchgrawn ar-lein Bremaik, http://bremaik.free.fr/ yw’r picnic i brotestio yn erbyn y diwydiant niwclear a drefnwyd ddydd Sul diwethaf, 25 Ebrill, ar safle atomfa Brenniliz yng Ngorllewin Llydaw.

Bu amryw gymdeithasau’n cymryd rhan sef Dour ha stêrioù Breizh (Cymdeithas gwarchod dŵr ac afonydd Llydaw), a’r mudiadau amgylcheddol Agir pour un environnement et un développement durables, Bretagne vivante, Consommation logement et cadre de vie, Groupement mammologique breton, Sortir du nucléaire Cornouaille a Vivre dans les monts d'Arrée.

Nod y picnic oedd cofio’r ddamwain a fu yn Chernobyl ar 26 Ebrill, 1986. ’Roedd bron 200 o bobl yn y brotest wrth yr atomfa Lydewig fethedig, adeilad y costiai ormod i’w chwalu ac sydd yn symbol nodedig o orhyder gwyddonwyr a gwleidyddion. Daeth ymchwiliad diweddar i’r casgliad na ellir gwneud dim â’r safle am na ŵyr neb beth i’w wneud â’r gwastraff ymbelydrol sydd yno.

Tua’r un amser bu rhyw 100 arall yn protestio yn erbyn arfau niwclear ar Fred, ger Kroazon, i’r de o ddinas Brest.

No comments: