19/04/2010

Catalaniaid a Basgiaid yn galw am gydnabyddiaeth

PHOTO JEAN-DANIEL CHOPIN http://www.batera.info/article-la-votation-organisee-par-batera-a-suscite-une-participation-honorable-46721559-comments.html#comment58337245

Yng Nghatalonia, yn Rhagfyr 2009, cafodd 200,000 o bleidleiswyr mewn 168 o gymunedau yng ngogledd Catalonia gyfle i leisio eu barn ar bwnc Catalonia annibynnol. Catalaniaid yn y rhan o’r wlad sydd o fewn gwladwriaeth Sbaen ac yn meddu ar hyn a hyn o ymreolaeth oedd y rhain, nid rhai sydd yn byw dros y ffin yn Ffrainc. Un answyddogol oedd y refferendwm, ond am ei werth ’roedd 95% o’r rhai a fwriodd bleidlais o blaid gwladwriaeth Gatalanaidd annibynnol. Eleni, gwelodd y Basgiaid Gogledd Gwlad y Basg eu bod hwythau’n gallu trefnu pleidlais tebyg.

Ers blynyddoedd mae cymdeithasau ac undebau yng Ngogledd Gwlad y Basg, y rhan sydd o dan lywodraeth Paris, yn unedig o dan y teitl Batera (At unoliaeth). Maent yn ymdrechu o hyd i dynnu sylw at angen trigolion y rhan honno o Wlad y Basg i gael eu sefydliad llywodraethol eu hunain yn lle cael eu clymu wrth wahanol ranbarthau nad oes a wnelont â’u gwlad hwy. Pwy a all eu beio am fod wedi alaru ar fod yn rhan o département 64 Ffrainc?

Bu Basgiaid y Gogledd yn cynnal gwrthdystiadau ac yn cyflwyno deisebau er mwyn pwyso am yr hawl i gael refferendwm i holi a ddylent gael corff llywodraethol neilltuol iddynt eu hunain. Anwybyddwyd y galw hwn yn llwyr gan Baris, wrth gwrs.

Ar 14 Mawrth 2010, pan oedd pobl i fod i fynd i bleidleisio yn etholiadau Acwitania, dyma aelodau o Batera yn cynnig cyfle iddynt i ateb ‘ydw’ neu ‘nac ydw’ i’r cwestiwn hwn: “A ydych am weld ardal weinyddol Fasgaidd?”, neu a dilyn yr union eiriad, greu “une collectivité terrioriale” Fasgaidd.

Bu modd i bobl mewn 124 o gymunedau roi eu barn. Er i’r préfet eu cyfarwyddo i beidio, bu i rai cynghorau tref ddarparu’r rhestr etholwyr a’r hyn a oedd ei angen i drefnu’r refferendwm yn y modd priodol.

O’r 193,505 o bobl a allai bleidleisio, atebodd 17.9% (34,610). ’Roedd 78% wedi ateb eu bod am gael ardal weinyddol Fasgaidd, 19% wedi pleidleisio yn erbyn, a bu’n rhaid anwybyddu 3% o’r papurau pleidleisio am nad oedd arnynt ateb.

Er nad yw’n gam mawr ymlaen, mae’r hyn a wnaethpwyd yn sicr yn cryfhau llaw’r Basgiaid pan fydd pwnc aildrefnu tiriogaethol yn codi yn senedd Paris.

Ffynhonnell: Erthygl yn “Bremañ”, Ebrel 2010 / http://www.batera.info/pages/FAQ_Galder_Erantzun-2521467.html


No comments: