04/05/2010

Mantell Manannan – Detholiad o Lenyddiaeth Fanaweg



Os oes gennych ddiddordeb yn Ynys Manaw a’r Fanaweg, diau y byddwch am gael gafael ar gopi o’r llyfr newydd “Manannan’s Cloak / An anthology of Manx literature”.

Yn ôl yr hysbyseb am y llyfr, ynddo ceir testunau barddoniaeth a rhyddiaith Aeleg o wahanol gyfnodau ynghyd â chyfieithiadau i’r Saesneg. Er mai cyfyngedig fu datblygiad llenyddiaeth yn y Fanaweg, efallai y bydd rhai’n synnu wrth weld cymaint o ddeunydd a gasglwyd ynghyd yma.
Yn cysylltu’r testunau ceir naratif sydd yn eu rhoi mewn cyd-destun hanesyddol ac sydd hefyd yn cynnwys sylwadau ar yr iaith ac ar y rhai a fu’n ymddiddori ynddi.

Golygwyd “Manannan’s Cloak” gan Robert Carswell, un o athrawon ac awduron amlycaf y Fanaweg, a cheir rhagymadrodd gan Dr Breesha Maddrell.

Bydd y llyfr ar werth o 17 Mai, 2010 (Clawr papur. 244tt. ISBN 978 1 903427 49 1 Pris: £16.99 – cludiant am ddim o fewn y DU)

Francis Boutle Publishers, 272 Alexandra Park Road, Llundain N22 7BG

info@francisboutle.co.uk
www.francisboutle.co.uk

No comments: