Un o amcanion y gystadleuaeth ffilmiau “Kentstrivadeg Berr-Berr : Filmoù no-budget ha graet ba' gêr”, a fydd yn rhan o Gouel ar Brezhoneg (Gŵyl y Llydaweg) a gynhelir y mis hwn yn Kawan (Cavan), yn ardal Treger (Trégor), yw rhoi cyhoeddusrwydd i’r Llydaweg.
Rhaid i’r ffilmiau a gaiff eu rhoi i mewn i’r gystadleuaeth fod wedi eu gwneud gartref, ond gallant fod ar unrhyw thema ac o unrhyw genre: ffuglen, ffilmiau dogfen, cartwnau, diaporama (cyfrwng clywedol cymharol ddiweddar sydd yn cyfuno delweddau llonydd a sain, a hefyd, weithiau, destun).
Os oes gennych ddiddordeb, ewch ati ar frys, am fod angen i’r ffilmiau gael eu derbyn erbyn 16 Mai. Rhaid mai ffilmiau a wnaed rhwng mai 2009 a Mai 2010 ydynt -naill ai yn Llydaweg neu’n fud.
Caiff pobl gyfle i bleidleisio i’w tair hoff ffilm a chyhoeddir y canlyniadau ar ddydd Sul, 23 Mai, yn Kawan. Caiff detholiad da o’r ffilmiau eu dangos yno hefyd.
Nid campweithiau a ddisgwylir!
I weld ffilmiau a anfonwyd eisoes :
http://www.youtube.com/results?search_query=berrberrbzg&aq=f
I gael manylion pellach : 02 98 21 30 59
kristian at blazproduktion.com neu fanny.chauffin at laposte.net
http://agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=18164
No comments:
Post a Comment