04/05/2010

Un Pybyr yw Cwmni Piba

Y dydd o’r blaen bûm yn ffodus o gael y cyfle i gwrdd â Lleuwen Steffan, Tony Foricheur, Thomas Cloarec , sef tri o bobl Theatr Piba (Teatr Piba), cwmni theatr Llydaweg sydd yn eithaf newydd. Y tri oedd..

Eu gobaith, maes o law, yw dod draw i Gymru i gyflwyno peth o’u gwaith, ac efallai gynnal gweithdy drama – rhywbeth a allai fod o ddiddordeb arbennig i’r Cymry sydd yn dysgu Llydaweg ond a allai ddenu cylch ehangach hefyd. Mae’n amlwg fod cam o’r fath yn golygu goresgyn problemau ieithyddol, ond nid peth newydd i’r cwmni yw hynny!

Crëwyd Theatr Piba, sydd wedi ei lleoli yn Kemper (Quimper), wedi i nifer o actorion, cerddorion, cyfarwyddwyr ac artistiaid amrywiol ddod ynghyd i drafod eu diddordeb mewn perfformio yn Llydaweg. Yr hyn a oedd yn dod â’r gwahanol bobl hyn at ei gilydd oedd eu hawydd cyffredin i greu theatr broffesiynol gyfoes yn yr iaith ac i roi gwedd newydd ar hen draddodiad dramataidd Llydaw.

Nid ar chwarae bach mae mentro gweithio yn Llydaweg, am nad yw bob amser yn hawdd cael nawdd, a hefyd am mai iaith go ddieithr yw hi i lawer o Lydawyr heddiw, a’r pwysau ar bawb i gydymffurfio a defnyddio’r Ffrangeg, iaith y wladwriaeth. I sefydlwyr Theatr Piba, fodd bynnag, ’roedd yn ymddangos bod angen mynd yn erbyn y llif, ac ymwrthod â’r duedd i gael diwylliant unffurf a di-liw ym mhob man. Teimlent ei bod yn bryd eto ddangos i bawb fod gan Lydaw iaith leiafrifol na fyn farw.


Nid drwy ddilyn hen rigolau y mae arddangos diwylliant byw, a dyna pam mai esblygu artistig yw sylfaen gwaith Theatr Piba. Amcana’r cwmni gael actorion, cerddorion, dawnswyr ac artistiaid gweledol i gydweithio er mwyn creu perfformiadau ag apêl gyfoes, rhywbeth rhwng theatr a chabaret.

Elfen o bwys i Theatr Piba yw’r corws, gan fod y corws yn rhoi’r cyfle i ganolbwyntio ar y llais ac ar ystumiau a symudiadau’r corff. Mae’r math o gydweithio sydd mewn corws yn golygu ystyried hunaniaeth yr unigolyn a’i iaith ond mae hefyd yn golygu cydweithio, gan fod yr holl leisiau unigol yn llefaru’n un.


Mae geiriau, tafodieithoedd ac acenion y Llydaweg yn greiddiol i waith y cwmni. A’r Llydaweg â’i gwreiddiau yn ddwfn yng nghefn gwlad, caiff ei nodweddu gan ryw symlrwydd di-lol a chan rythmau sydd yn amrywio o ardal i ardal, ac o dafodiaith i dafodiaith. Dyma gyfoeth y mae’r theatr am fynd fanteisio arno i roi cymeriad arbennig i’w waith. Mae traddodiad cerddorol cryf yn Llydaw ac amcenir cyfuno hwnnw hefyd â barddoniaeth iaith y pridd.

Oherwydd natur ieithyddol y gymdeithas Lydewig, mae gofyn cynnig gweithiau dramataidd drwy gyfrwng y Llydaweg sydd hefyd yn apelio at y mwyafrif di-Lydaweg. Dyma rywbeth o ddiddordeb mawr i’r cwmni, felly - hynny yw sut i ddefnyddio’r iaith heb orfod trosi pob dim a gweithio mewn ffordd ddwyieithog gonfensiynol.

Her artistig, her dechnegol a her ieithyddol sydd yn wynebu Theatr Piba, ond mae brwdfrydedd a dawn ddiamheuol y chwaraewyr yn rhoi rheswm inni gredu y byddant yn cyrraedd eu nod.

Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu’r cwmni i Gymru ymhen blwyddyn neu ddwy.


teatr.piba@gmail.com

teatrpiba.com


2 comments:

Teatr said...

demat,


nemet ur gerig 'vit difaziañ un drfa bennak:
teatr.piba@gmail.com
teatrpiba.com
trugarez vras deoc'h!
a galon,
Thomas

teod-karv said...

Reizhet! Trugarez