10/05/2010

Llydaw mas ar ras yr iaith

Er gwaetha’r glaw a’r tywydd diflas, mae rhedwyr yr ail Ras dros y Llydaweg (Ar Redadeg) wedi cychwyn yn frwd ac yn egnïol o ganol prifddinas Llydaw, Roazhon (Rennes). Bu’r Ramoneurs de Menhirs yn canu cân y Redadeg a chefnogwyr yn dawnsio yn y glaw. Gan Yann Bijer, cyn iddo estyn y ffon i’r rhedwr cyntaf, cafwyd araith yn sôn am le’r Llydaweg ym mywyd y brifddinas. Yn y ffon a gludir gan y rhedwyr y mae neges wedi ei chuddio, ac fe gaiff ei datgelu ym mhen y daith ym Mhondi (Pontivy), ddydd Sadwrn nesaf.

Ymhlith y rhai sydd yn cymryd rhan, fel y soniwyd o’r blaen, y mae Siôn Jobbins o Aberystwyth. Mae Siôn yn awyddus i weld a fydd modd trefnu ras debyg, dros y Gymrae,g yng Nghymru, felly cysylltwch ag ef os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun hwnnw!

Manylion pellach: http://ar-redadeg.org/


I weld lluniau o gychwyn y daith: http://www.facebook.com/album.php?aid=172813&id=178189343066&ref=mf


http://bremaik.free.fr/


No comments: