13/05/2010

Craidd ymbelydrol Llydaw


Dogmatic shock
Originally uploaded by ILPlais

Fel y bydd y sawl sydd yn dilyn y blog hwn yn gwybod, dechreuwyd datgymalu’r unig atomfa yn Llydaw, un Brenniliz (Brennilis), yn 2007. Bellach mae’r Awdurdod Diogelwch Niwclear (ASN) wedi awgrymu i llywodraeth Ffrainc y dylid awdurdodi ei dymchwel yn rhannol yn awr, a dechrau ar y gwaith o’i chwalu’n llwyr yn 2013.

Ar 23 Rhagfyr 1966, un Brenniliz oedd yr atomfa gyntaf i’w hagor yn Ffrainc, ac mewn llecyn â’r enw traddodiadol ‘Porzh an Ifern’ (Porth Uffern). Wedi 19 o flynyddoedd fe’i caewyd ac o 1985 tan 1992 bu cwmni trydan EDF yn symud deunydd ymbelydrol oddi yno ac yn pacio gwastraff i’w gadw ar y safle, lle yr arhosai craidd yr adweithydd. Yn 2003 newidiwyd y strategaeth a bwriadai EDF lwyr ddatgymalu’r offer, gan gynnwys y craidd niwclear. 16 mis yn ddiweddarch rhoddwyd y gorau i’r cynllun hwnnw, fodd bynnag, am resymau’n ymwneud â’r dull gweithredu, yn dilyn cais gan y mudiad “Sortir du nucléaire”.

Yn 2008, dyma EDF yn gwneud cais newydd i awdurdodi llwyr ddatgymalu’r atomfa, ond yn y pen draw nid oedd y comisiwn a fu’n ymchwilio i’r mater yn bleidiol i’r cais. Cyhoeddwyd ddoe fod yr Awdurdod Diogelwch Niwclear wedi annog y llywodraeth i ddilyn cyngor y comisiwn, am nad oes ar hyn o bryd yr un system a all drin y craidd niwclear, ond y rhagwelir y bydd system o’r fath ar gael maes o law ac y gellir dechrau mynd i’r afael â’r craidd erbyn 2013.

Dylai’r llywodraeth ddod i benderfyniad yn ystod y flwyddyn nesaf ac mae’n debyg o ddilyn barn yr ASN. Yn y cyfamser mae’r ASN ac EDF am symud ymlaen i rannol ddatgymalu’r atomfa gan adael y craidd niwclear. Caiff y cynllun hwnnw ei roi gerbron y llywodraeth yn fuan iawn.

http://www.defibreton.com/spip.php?article1128

http://www.letelegramme.com/ig/generales/regions/finistere/centrale-de-brennilis-29-un-demantelement-en-deux-temps-propose-12-05-2010-910112.php

llun: http://www.flickr.com/photos/ilplais/4540959905/

No comments: