07/04/2010

Cadw rhaglenni teledu Llydaweg

Ym mis Mawrth llynedd, rhoddodd TV Breizh, sianel nad yw’n darlledu yn Llydaweg bellach, tua 800 o oriau o raglenni Llydaweg i’r gymdeithas Dizale. Er mwyn digideiddio a chadw’r deunydd hwnnw, mae cytundeb bellach wedi cael ei lofnodi rhwng Gilbert Le Traon, rheolwr Gwarez Filmoù (Gwarchod Ffilmiau) a Samuel Julien ac Andrev Lavanant, sef rheolwr a llywydd Dizale.

Wedi ei sefydlu yn Nhachwedd 1998, cais Dizale ddatblygu deunydd clyweled yn Llydaweg. Yn 2006 y trosleisiwyd y ffilm sinema gyntaf i’r iaith, a buwyd wedyn yn cynhyrchu cartwnau, cyfresi teledu a ffilmiau teledu.

Diolch i Gwarez Filmoù, bydd modd i Dizale roi bywyd newydd i’r rhaglenni Llydaweg a gynhyrchwyd gan TV Breizh, fel y rhaglenni cylchgrawn ‘Tro war Dro’ a ‘Mil Dremm’, heb sôn am yr holl bethau a drosleisiwyd.

Bydd Dizale yn cymryd rhan ym mis Ebrill yng Ngŵyl y Cyfryngau yn Iwerddon.

http://bremaik.free.fr/

No comments: