05/04/2010

Llydawyr, ac eraill, yn perfformio yng Nghaerdydd

Am 7.30pm ar ddydd Sadwrn, 1 Mai, 2010, bydd Nolwenn Korbell yn canu yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Yr artistiaid eraill a fydd ar y llwyfan yw Siân James, y delynores o Sir Drefaldwyn, y grŵp Calan, Y Gleorfa, sef hanner cant o gerddorion ac o ddawnswyr, a Lleuwen Steffan, Cymraes sydd erbyn hyn yn byw yn Douarnenez yn Llydaw. Bydd dawnswyr gwerin Kevrenn an Alre hefyd yn cymryd rhan.

Mynediad £20 (£10 i rai dan 16 / disgownt o 10% i fyfyrwyr, i rai 60+ ac i’r anabl). Rhif ffôn: 029 2063 6464

Y llun o Nolwenn Korbell: http://liv-an-noz.ifrance.com/soig_siberil_&_nolwenn_korbell.htm

No comments: