Daeth manylion i law am gwrs Llydaweg KEAV, 2010. Dyma’r cwrs gorau i unrhyw un sydd wedi dysgu peth Llydaweg ac sydd yn awyddus i gael cyfle i ymarfer yr iaith. Nid oes dosbarthiadau i ddechreuwyr, felly anogir pawb i siarad Llydaweg ar hyd yr wythnos neu ar hyd y pythefnos, am y gellir aros am un wythnos yn unig, y naill neu’r llall, neu am y ddwy.
Eleni, fel llynedd, cynhelir y cwrs yn Kastellin (Châteaulin), yn Lise ar Stêr Aon, a’r dyddiadau yw 4-10 Gorffennaf + 11-17 Gorffennaf. Mae modd cyrraedd unrhyw bryd o 6pm ymlaen ar y diwrnod cyntaf.
Gellir naill ai dilyn dosbarthiadau iaith neu ddewis gweithgaredd a gynigir. ‘Canolbwyntio ar gomedi sefyllfa’ a ‘Gwella ynganiad 1’ yw’r dewisiadau arbennig i’r wythnos gyntaf a ‘Gwella Ynganiad 2’, ‘Dysgu gwneud ffilmiau fideo’ a ‘Newyddiadura’ yw’r rhai i’r ail wythnos. Bydd hanner awr o ganu/ddawnsio am hanner dydd bob dydd, ac wedi 5pm, bydd ymweliadau a gwahanol weithdai.
250€ yw cost un wythnos (220€ i fyfyrwyr ac i’r di-waith) – popeth yn gynwysedig.
Manylion pellach: keav@wanadoo.fr
No comments:
Post a Comment