07/04/2010

Erthygl ar Frwydr Plogoñv (Plogoff)


DSC01359_ro
Originally uploaded by astennet
Yn y rhifyn cyfredol (121) o'r cylchgrawn Al Lanv, mae erthygl ddiddorol, gan Kenan an Habask, ar hanes ac arwyddocâd yr hyn a ddigwyddodd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yn Plogoñv (Plogoff), pentref bychan yng Ngorllewin Llydaw. Y pryd hynny, daeth y fangre dawel hon yn faes brwydro ffyrnig rhwng y wladwriaeth Ffrengig a gwrthwynebwyr ynni niwclear.

Bwriad EDF oedd codi atomfa yn Plogoñv, nid nepell o Beg ar Raz, a bu brwydro yno am chwe wythnos wrth i brotestwyr, llawer yn eu plith yn bobl cefn gwlad o’r ardal, flocio’r ffyrdd er mwyn rhwystro’r awdurdodau rhag cynnal y sesiynau ymgynghori lleol, y cam cyntaf cyn dechrau’r gwaith.


Wedi’r chwe wythnos o helynt, bu misoedd o bryder, ond yna etholwyd François Mitterand yn Arlywydd Ffrainc, ac ar 3 Mehefin 1981 diddymwyd y cynllun i godi’r atomfa. Ychydig a wnaed, er hynny, i ddatblygu dulliau mwy ecogyfeillgar o greu ynni, nac i gynnal y rhai y rhoddwyd cychwyn iddynt.

Yn ogystal â bod yn enghraifft o lwyddo i drechu’r diwydiant niwclear ac i amddiffyn cefn gwlad ac arfordir Llydaw, ystyrir Brwydr Plogoñv yn fynegiant pwysig o’r ymwybyddiaeth Lydewig, gyda phobl Llydaw’n teimlo eu bod yn codi yn erbyn pŵer canolog Ffrainc.

Mae’r llun hwn yn dangos carreg y naddwyd arni ‘NUKLEEL NANN – BREIZH A VEVO’ (Niwclear Nage – Bydd Llydaw Fyw). Fe’i codwyd yn Lokorn (Locronan) yn 1981 i gofio am yr helynt ac i ddathlu’r dyfodol diniwclear.

No comments: