13/04/2010

Cyfiawnder o'r diwedd i'r newyddiadurwyr Basgeg

Mae’r barnwr Javier Gomez Bermudez wedi rhyddfarnu 5 o aelodau o gorff cyfarwyddo’r papur newydd dyddiol Basgeg ‘Egunkaria’, sef Iñaki Uria, Juan Mari Torrealdai, Jose Maria Auzmendi, Xabier Oleaga a Martxelo Otamendi. Roedd y 5 yn wynebu treulio rhwng 12 a 15 mlynedd yn y carchar, a’u gwahardd hefyd am 14 blynedd, neu am 15 mlynedd, rhag bod yn newyddiadurwyr.

7 mlynedd yn ôl gorchmynnodd llywodraeth asgell-dde y PP gau’r papur ‘Egunkaria’ am fod rhai’n amau ei fod yn gysylltiedig â brawychwyr Basgaidd. Bellach dangoswyd na ellir profi bod ETA yn rhoi cefnogaeth ariannol i’r newyddiadur. Mynnai gwrthwynebwyr y papur Basgeg mai ‘gorchudd diwylliannol’ i ddelfrydau’r terfysgwyr.

Gwadai’r diffynyddion eu bod yn deyrngar mewn modd yn y byd i ETA, gan ddadlau mai eu hamcan oedd hybu’r Fasgeg drwy gyfrwng y newyddiadur dyddiol uniaith Fasgeg.

Crynhowyd effaith yr achos ar bobl Gwlad y Basg gan yr awdur Anjel Lertxundi:


'Gwnaed niwed i'r diffynyddion ac i'w teuluoedd, i'r newyddiadurwyr ac i'w papur newyddion, i ddarllenwyr y papur ac i'r Fasgeg ei hun. Dygwyd anfri ar bobl, bu colledion ariannol, bu'r gymdeithas ar ei cholled a'n bywyd gwleidyddol hefyd. Niweidiwyd iechyd corfforol a meddyliol pobl. Gwnaed niwed i unigolion a niwed torfol.'

http://www.eitb.com/news/politics/detail/395791/judge-acquits-5-members-sentenced-basque-egunkaria-case/

No comments: