15/04/2010

Iaith Galisia yn dioddef o dan y llywodraeth newydd

Mae Queremos Galego, corff anllywodraethol yr Aliseg (iaith Galisia), wedi bod ym Mrwsel er mwyn ymgyrchu yn erbyn ordinhad iaith arfaethedig y llywodraeth (Plaid y Bobl-Ceidwadwyr). Cawsant gwrdd â’r Intergroup ac â’r Comisiwn. Bwriad yr ordinhad yw lleihau’r defnydd o’r Aliseg yn yr ysgolion o 50% i 30%, a chyflwyno’r Saesneg. Gwaherddir dysgu gwyddoniaeth a mathemateg mewn Galiseg

Un o gamau cyntaf y llywodraeth newydd oedd cau’r ysgolion Galiseg a fynychid gan y plant bach cyn iddynt ddechrau yn yr ysgolion arferol. Nid oes dim addysgu drwy drwytho plant yn yr iaith fel a geir yn y mannau hynny lle y llwyddir orau i warchod ieithoedd dan warchae, a gwelir y cam diweddaraf hwn gan lawer fel ffordd o ddad-wneud y cynnydd a fu hyd yn hyn wrth amddiffyn yr iaith.

‘Yng Ngalisia mae gennym lywodraeth sydd yn treisio hawl y dinesydd i ddefnyddio ei iaith ym mhob sefyllfa,’ meddai Benedict Lobeira, cenedlaetholwr Galisaidd. I Lobeira, mae’r PP (Plaid y Bobl) ‘yn rhoi’r Aliseg ar lefel iaith estron.’


http://www.galiciahoxe.com/mare/gh/cruzada-do-goberno/idEdicion-2010-04-15/idNoticia-536407/

No comments: