15/02/2010

Ysgrifennwch lythyr er mwyn yr Ayoreo-Totobiegosode

Mae Indiaid yr Ayoreo-Totobiegosode yn byw yn y Chaco, ehangder maith o goedwigoedd prysglog sydd yn ymestyn o Baragwâi i Folifia a’r Ariannin. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae ranshwyr gwartheg wedi meddiannu ardaloedd eang o’u o’u tiroedd, a bellach wrthi’n eu clirio.

Gorfodwyd y grŵp mawr cyntaf o Indiaid yr Ayoreo-Totobiegosode i adael y goedwig yn ôl yn 1979. Yn fuan wedyn, bu farw llawer ohonynt gan glefydau heintus.

Ym 1986 daliwyd grŵp mawr arall ohonynt, ac aed â nhw allan o’r goedwig. Wrth geisio eu hamddiffyn eu hunain rhag y rhai â’u bryd ar eu caethiwo, bu farw pump o’r Indiaid.

Yn 1993, ar gais yr Indiaid, gwnaeth cyfreithwyr a oedd yn gweithio ar eu rhan hawlio tir iddynt.

Yn 2004, daeth 17 o Indiaid y Totobiegosode allan o’r goedwig, a nhwthau’n gorfod symud o le i le ers blynyddoedd wrth i wahanol bobl oresgyn eu tir.

Yn 2009, dyma gwmni o'r enw Yaguarete Porá yn afon teirw dur i mewn i glirio’r goedwig, gan wrthod caniatáu i archwilwyr y llywodraeth fynd i mewn.

Fel y gwelir, ers dros 30 o flynyddoedd, ’does gan lawer o Indiaid y Totobiegosode ddim dewis ond i adael eu cynefin, a’r cynefin hwnnw’n cael ei weddnewid wedyn gan y ranshwyr gwartheg. Y cwbl sydd ar ôl iddyn nhw, yn aml iawn, yw gweithio i’r union bobl hynny sydd wedi eu gyrru allan o’u cartrefi. Mae gan Genhadaeth y Llwythau Newydd ganolfan nid nepell oddi wrth eu cymunedau, ac mae hon hefyd yn drwm ei ddylanwad ar eu bywyd beunyddiol.

Heddiw mae’r Totobiegosode yn dal i fynnu bod ganddyn nhw hawl ar diroedd, ond rhan fechan o’u tiriogaeth wreiddiol yn unig sydd dan sylw ganddynt, digon iddyn nhw i allu goroesi ac i amddiffyn perthnasau iddynt sydd yn dal heb ddod i gyswllt â’r goresgynwyr o dras Ewropeaidd.

O dan gyfraith Paragwâi dylsai cais yr Indiaid am dir fod wedi cael ei dderbyn flynyddoedd yn ôl, ond rhai grymus iawn yw’r tirfeddianwyr, ac yn benderfynol o fynd â’r prennau caled gwerthfawr oddi yno, llosgi’r hyn sydd ar ôl a sefydlu gwartheg ar y tir.

Yng nghanol tiriogaeth yr Indiaid mae darn o dir sydd yn ymestyn dros 78,000 o hectarau ac yn nwylo cwmni o Frasil, sef Yaguarete Porá. Mae eisoes wedi clirio rhan fawr o’r goedwig yn agos i fan lle y gwelwyd Indiaid yr Ayoreo yn ddiweddar. I geisio lliniaru’r dicter a demlir gan lawer, mae Yaguarete Porá wedi cyhoeddi y caiff ‘gwarchodfa natur’ ei chreu ar y tir, ond mae, mewn gwirionedd, â’i fryd ar ddinistrio tua dau draean o’r goedwig, gweithred a fydd yn golygu na fydd dyfodol i’r Indiaid yno.

Mae’r mudiad Survival International yn annog pobl i ysgrifennu at Arlywydd Paragwâi i bwyso arno i barchu deddfau ei wlad, a’i chyfansoddiad, a heb oedi dim, i roi hawl i’r Ayoreo-Totobiegosode i aros yno.

Cewch enghraifft o’r math o lythyr i’w ysgrifennu, a’r cyfeiriad, ar:

http://www.survivalinternational.org/tribes/ayoreo#actnow

http://www.survivalfrance.org/peuples/ayoreo
#main

No comments: