16/02/2010

Cam ymlaen i arwyddion dwyieithog

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ofis ar Brezhoneg (Swyddfa’r Llydaweg) ddogfen newydd ar arwyddion dwyieithog. Codwyd yr arwyddion dwyieithog cyntaf yn 1984, ond cymerwyd camau mawr ymlaen oddi ar hynny, ac mae cynifer o arwyddion Llydaweg-Ffrangeg fel y mae’n anodd credu bod yr iaith yn gwbl anweledig ym mhob cwr o’r wlad ychydig flynyddoedd yn ôl.

I dwristiaid, ac i’r Llydawyr eu hunain, mae’r arwyddion wedi dod yn un o nodweddion y wlad, hyd yn oed os oes ambell ardal lle na cheir arwyddion dwyieithog hyd heddiw.

Mae dogfen newydd Ofis ar Brezhoneg yn cynnig canllawiau, rheolau a dulliau syml o weithio. Mae pedwar pwynt sylfaenol y dylid eu dilyn:

1. meddwl am ddwyieithedd cyn gynted ag y dechreuir ar gynllun

2. defnyddio’r un math o lythrennau (yr un ffont, yr un lliw a’r un faint) ar gyfer y ddwy iaith

3. bod yn ddwyieithog o’r dechrau i’r diwedd, mewn ffordd systematig, fel y cynigir gwasanaeth cyfartal i bawb

4. peidio â dynodi’r un enw ddwywaith – rhywbeth sydd yn codi yn achos enwau lleoedd yn bennaf

Dywedir ei bod yn bwysig hefyd fod yr hyn sydd i’w ddefnydio yn cael ei anfon i Swyddfa’r Llydaweg i gael ei wirio, fel na fydd gwallau gwirion ac esgeulus yn llithro i mewn – rhywbeth sydd yn rhy amlwg o lawer yma yng Nghymru, fel y dengys cannoedd o enghreifftiau yn y casgliad Scymraeg:

http://www.flickr.com/groups/scymraeg/

Hyd yn hyn, mae natur yr arwyddion dwyieithog yn Llydaw yn gyfyngedig: enwau lleodd, rhai i ddangos bod cylchfan neu ysgol neu ganolfan chwaraeon etc., ond ni fu rhai ‘dizroenn’ (dargyfeiriad) neu 'labourioù' (gwaith ar y ffordd), er enghraifft. Y gobaith bellach, fodd bynnag, yw cynnig gwasanaeth cyflawn.

Mae’r arwyddion dwyieithog yn rhan bwysig o’r ‘olygfa ieithyddol’ yn Llydaw, a dangoswyd gan bobl Québec bwysiced yw hynny, gan ei fod yn ddrych o werth iaith a’i statws. Mae’n haws i’r siaradwyr Llydaweg gael cyfle i ddefnyddio eu hiaith pan welant arwyddion yn eu hiaith, ac mae cymaint yn fwy deniadol hefyd i’r rhai nad ydynt yn ei medru.

No comments: